Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cymeradwyo gwerthu safle Fferm Cosmeston Uchaf, gan wahodd cynigion sydd eu hangen i fodloni safonau byw carbon sero-net newydd a heriol.
Bydd datblygiad preswyl y tir yn golygu y bydd mwy na 500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, gyda gofyniad i 50% fod yn fforddiadwy i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi i rentu yn y sector gymdeithasol erbyn 2026[troednodyn 1].
Sefydlwyd datblygiad y tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg a bydd hefyd yn gweld adeiladu ysgol gynradd newydd, mannau agored cyhoeddus, llwybr teithio llesol a chyfleusterau cymunedol.
Bydd y datblygiad yn helpu i gefnogi llesiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn y gymuned a bydd angen i’r sawl sy’n cyflwyno cynnig ddangos sut y byddant yn bodloni’r safonau uchaf posibl o ran creu lleoedd, gofod ac ansawdd a hefyd gyflawni cyfran lawer yn uwch o gartrefi fforddiadwy na’r hyn sy’n arferol ar gyfer datblygiadau o’r fath.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl ganolog wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni arwain trwy esiampl mewn datblygiadau preswyl.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bro Morgannwg ar y cynigion datblygu ar gyfer Fferm Cosmeston Uchaf er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r amcanion yr wyf wedi'u cynllunio o'r blaen i ddarparu mwy o dai amrywiol a buddion cymdeithasol.
Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach a byddem yn annog cynigwyr i fod yn arloesol a mynd y tu hwnt i'r amcanion a nodir i greu cartrefi a lleoedd hardd sydd o ansawdd uchel, yn effeithlon o ran ynni, yn garbon isel ac yn gynaliadwy.
Mae’r broses waredu yn cael ei rheoli gan yr ymgynghoriaeth eiddo rhyngwladol, Savills.ar ran Llywodraeth Cymru.
Troednodiadau
[1] Cafodd yr hysbysiad hwn i’r wasg ei ddiweddaru ar 21 Tachwedd i nodi ’20,000 o gartrefi i’w rhentu yn y sector preifat’ yn lle ’20,000 o gartrefi fforddiadwy’.