Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn nodi heddiw ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf mewn Gwasanaeth Cenedlaethol o Ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Bydd Iarll ac Iarlles Wessex yn bresennol hefyd fel gwesteion y Prif Weinidog. Traddodir yr anerchiad gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies.
Yn ystod y gwasanaeth, caiff y gynulleidfa glywed darlleniadau gan Nia Haf ac Ethan Williams o Urdd Gobaith Cymru a chan Mari Wyn Jones o Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug.
Wrth siarad cyn y gwasanaeth, dywedodd y Prif Weinidog:
"Bob Sul y Cofio, cawn gyfle i dalu teyrnged i ddynion a menywod a wasanaethodd i ddiogelu'r heddwch mae gennym y fraint o'i brofi yma yng Nghymru heddiw.
"Mae Sul y Cofio eleni yn arbennig o emosiynol gan ein bod yn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Heddiw, rydyn ni'n cofio aberth aelodau'r lluoedd arfog o Gymru. Rydyn ni hefyd am gofio'r dynion, menywod a phlant dirifedi am eu cyfraniad mor hanfodol gartref gan ddylanwadu ar gymdeithas mewn ffyrdd na wnaeth yr un genhedlaeth cyn hynny.
"I'r genhedlaeth ryfeddol hon, rhown ein diolch. Bydd eu cyfraniad a'u gwaddol yn para am byth."
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies:
"Rydyn ni wedi dod ynghyd i ddiolch am ddiwedd anghydfod sy'n dal i fod gyda'r mwyaf arwyddocaol, enbydus a gwastraffus a fu yn hanes y byd. Boed i'r cofio a'r myfyrio heddiw ar y Rhyfel Byd Cyntaf ein harwain bob yn un i ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i wneud ein byd, ein cenedl, ein cymunedau y math o le yr oedd y rheini rydym yn eu hanrhydeddu heddiw yn credu eu bod yn ymladd i'w adeiladu. Bydd unrhyw amharodrwydd i wneud yr ymrwymiad hwnnw yn dibrisio aberth pawb sydd wedi brwydro dros gyfiawnder dros y canrifoedd, ac nid y lleiaf o'r rheini wrth gwrs yw'r bobl y byddwn yn eu cofio y penwythnos hwn."
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Prif Weinidog wedi arwain rhaglen Llywodraeth Cymru i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-18.
Mae rhaglen o ddigwyddiadau cenedlaethol, arddangosfeydd, gweithgareddau cymunedol a rhaglenni addysg wedi'u cynnal ledled y wlad, gyda phobl o bob oed yn cael eu gwahodd i fyfyrio a dysgu am y cyfnod pwysig hwn yn ein hanes.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
"Testun balchder imi yw mod i wedi cael bod yn rhan o'r rhaglen gofio hon sydd wedi nodi pob agwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar y wlad. Rwy'n neilltuol o falch o'r ffordd y mae pobl wedi cefnogi'r rhaglen Cymru'n Cofio a gweld cymunedau ym mhob rhan o'r wlad yn cydnabod yr aberth a wnaed gan bobl yng Nghymru, o'r digwyddiadau mawr yng Nghoed Mametz a Passchendaele, i brosiectau ysgol sy'n helpu i greu archif ledled Cymru o'r bobl o'n cymunedau a laddwyd yn y brwydro. Mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol.
"Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith sydd wedi'i wneud dros y pedair blynedd yn helpu cenedlaethau heddiw ac yfory i ddeall yn well arwyddocâd digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf ac osgoi camgymeriadau'r gorffennol. Byddai hynny'n waddol deilwng i'r rhaglen gofio hon.”
Mae rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-18 wedi'i hestyn tan 2020.