Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi gwahodd Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, i gadeirio grŵp gweithredu ar ddigartrefedd.
Bydd y grŵp o arbenigwyr yn ystyried y canlynol:
- pa ddulliau gweithredu sydd eu hangen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru;
- pa gamau y gellir eu cymryd ar unwaith i leihau'r niferoedd sy'n cysgu allan rhwng nawr a'r gaeaf
- pa gamau y gellir eu cymryd i roi diwedd ar gysgu allan yn gyfan gwbl
- sut i sicrhau bod ailgartrefi pobl yn gyflym ac yn barhaol yn ganolog i'r gwaith i atal a mynd i'r afael â digartrefedd a rhoi diwedd arno
- sut i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner yn cydweithio'n agos er mwyn atal a mynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol a rhoi diwedd arno.
Dywedodd Julie James:
Rydym wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rwyf am nodi'n glir mai atal digartrefedd yw ein nod yn y lle cyntaf. Ond, os na ellir ei atal, rhaid i ni sicrhau ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd yn anaml a hynny am gyfnod byr yn unig ac nad yw'n digwydd eto.
Mae John Sparkes wedi cytuno i arwain Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ystyried y materion hyn. Bydd y grŵp yn cwrdd 12 gwaith rhwng mis Mehefin eleni a mis Mawrth y flwyddyn nesaf, sy'n dangos bod angen ymdrin â'r sefyllfa ar frys a hefyd yn adlewyrchu fy awydd i weithio'n gyflym i gyflawni newid sylweddol go iawn. Byddant yn adrodd yn uniongyrchol i mi ar adegau allweddol yn ystod eu gwaith a byddant yn gweithio'n annibynnol i gyflwyno argymhellion polisi ar y camau gweithredu a'r atebion sy'n angenrheidiol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Dywedodd Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis:
Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi gofyn i mi gadeirio grŵp gweithredu a fydd yn cyflwyno atebion i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Er bod cynnydd da wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru'n iawn i ystyried sut i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth ar draws Cymru, gan ganolbwyntio ar gysgu allan a mathau eraill o ddigartrefedd.
Bydd y grŵp gweithredu yn ateb cyfres heriol o gwestiynau ac yn defnyddio arbenigedd o bob cwr o Gymru, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd a'r rheini sy'n gwybod beth sy'n gweithio i'w ddileu.
Rwy'n argyhoeddedig ei bod yn bosibl rhoi diwedd ar ddigartrefedd drwy roi'r polisïau a'r arferion cywir ar waith i atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n credu'n gryf y gellir cyflawni hyn yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at fwrw ati'n gyflym ochr yn ochr ag aelodau eraill y grŵp gweithredu.
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp Gweithredu heddiw, ddydd Gwener 28 Mehefin.