Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn agor Ffordd Osgoi'r Drenewydd yn swyddogol heddiw. Mae'r gwaith wedi cael ei gwblhau yn gynnar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r ffordd osgoi ym mis Chwefror 2016, a bydd traffig yn gallu teithio ar y ffordd am y tro cyntaf yn dilyn yr agoriad swyddogol.

Mae'r datblygiad, sydd i'r de o'r Drenewydd, tua 6.3km o hyd ac mae dwy lôn i un cyfeiriad ac un lôn i'r cyfeiriad arall, sy’n golygu y bydd modd goddiweddyd yn ddiogel.

Bydd Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn lleihau tagfeydd traffig yng nghanol y dre rhwng 40 a 50 y cant, a bydd hyn yn golygu amserau teithio llai yn yr ardal a mynediad gwell at swyddi a gwasanaethau. Bydd hefyd yn gwella diogelwch drwy osgoi'r angen i gerbydau nwyddau mawr, trwm, uchel a cherbydau amaethyddol deithio drwy ardaloedd preswyl cyfagos.

Rhoddwyd pwyslais mawr ar fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda £46.8 miliwn yn cael ei wario ar orbenion, ac ar nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd gan gwmnïau yng Nghymru.  

Yn ogystal, mae £10.7 miliwn wedi cael ei wario ar gyflogi pobl sy'n byw yng Nghymru o ganlyniad i'r cynllun, gan gynnwys prentisiaid.

Mae'r contractwyr a adeiladodd y ffordd osgoi, Alun Griffiths, wedi darparu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant yn lleol, mewn partneriaeth â Choleg Powys, drwy Raglen yr Academi Sgiliau. Mae hyn wedi arwain at 18 o brentisiaid a hyfforddeion graddedig yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr drwy weithio ar y ffordd osgoi.

Mae darpariaethau teithio llesol hefyd wedi cael eu cynnwys fel rhan o'r ffordd osgoi, gan gynnwys llwybr cyswllt rhwng y Drenewydd ac Ystad Ddiwydiannol Mochdre.

Cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Rwyf wrth fy modd yn agor y datblygiad arwyddocaol hwn yng Nghanolbarth Cymru yn swyddogol.

Mae Ffordd Osgoi'r Drenewydd wedi cael ei chyflawni’n gynnar, ac mae wedi cael ei chwblhau i'r safon uchaf. Mae'r cynllun yn gwella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de, a'r dwyrain a'r gorllewin, a bydd yn arwain at newid sylweddol i'r ffordd mae pobl yn teithio yn yr ardal, ac i’r daith i’r Drenewydd a'r tu hwnt.

Bydd nifer y cerbydau sy'n teithio drwy'r dre’n gostwng o ganlyniad i'r datblygiad, gan arwain at amserau teithio llai ac ansawdd aer gwell yn yr ardal.

Bydd y ffordd osgoi newydd yn cryfhau'r economi leol drwy ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at swyddi a gwasanaethau, a bydd busnesau ar eu hennill hefyd, gan fod y llwybr newydd yn gwneud mewnforio ac allforio nwyddau'n haws. Mae hefyd yn creu cysylltiadau gwell â chyrchfannau twristiaeth, a bydd hyn yn rhoi hwb i'r diwydiant.

Mae'r rôl y mae prentisiaid a hyfforddeion graddedig a oedd yn gweithio ar y ffordd osgoi wedi'i chwarae wedi creu argraff fawr arna' i. Hoffwn eu llongyfarch nhw, cwmni Alun Griffiths a phawb sydd wedi gweithio i gyflawni'r campwaith peirianegol hwn.

Mae hefyd yn bleser gennyf weld lefel yr ymgysylltu â'r gymuned a'r prosiectau sydd wedi cael eu cyflawni o ganlyniad i'r prosiect. Gan amrywio o godi arian dros elusennau i raglenni i gysylltu â sefydliadau addysg megis ymweliadau ag ysgolion, mae'r cynllun hwn wedi cynnwys elfen gymunedol go iawn.

Mae Ffordd Osgoi'r Drenewydd yn enghraifft ardderchog o sut mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru a’r arian mae’n ei fuddsoddi’n sicrhau manteision ar gyfer trigolion Canolbarth Cymru."