Bydd y cytundeb partneriaeth Marchnata yn sicrhau safle mwy amlwg ar gyfer Gymru, o fewn marchnadoedd allweddol megis cyrchfan am wyliau a busnes.
Gwasanaeth Qatar Airways fydd gwasanaeth cyntaf Maes Awyr Caerdydd i'r Dwyrain Canol, a bydd 150 o gysylltiadau o Doha. Cysyllltiadau i Awstralia, Seland Newydd, Tsieina, India a Japan ac o'r gwledydd hyn fydd y marchnadoedd mwyaf arwyddocaol ar gyfer blaenoriaethau twristiaeth a busnes Cymru.
Bydd gweithgarwch sylweddol o fewn marchnadoedd allweddol fel rhan o'r cytundeb dwy flynedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o deithiau awyr i mewn i Faes Awyr Caerdydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithgarwch marchnata ymysg defnyddwyr ac ymwneud â'r diwydiant teithio o fewn marchnadoedd allweddol Awstralia, Tsieina, India a Japan.
Mae Croeso Cymru, Qatar Airways a Maes Awyr Caerdydd ar daith fasnach yn Awstralia a Seland Newydd ar hyn o bryd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r teithiau awyr newydd a hyrwyddo'r hyn y gall Cymru ei gynnig i ymwelwyr o Awstralia. Mae'r tîm wedi cyfarfod â thros 300 o gynrychiolwyr o'r diwydiant teithio yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn Sydney, Adelaide, Melbourne, Perth ac Auckland, gan gynnwys cyfarfodydd â chynrychiolwyr dylanwadol o fewn y diwydiant teithio fel Flight Centre, Helloworld a Tempo Holidays.
Rydym wedi canolbwyntio ar hyrwyddo ein cynhyrchion, ein gweithgareddau, ein digwyddiadau a'n profiadau heb eu hail yn ystod Blwyddyn y Môr 2018 - a hefyd Ffordd Cymru - ein teulu newydd o dri o lwybrau prydferth i deithio arnynt sy'n croesi rhai o dirweddau gorau'r wlad, fel ffyrdd o arddangos hanes, arfordiroedd ac atyniadau anhygoel Cymru - a rhoi'r hyder a'r wybodaeth i ymwelwyr tramor grwydro ymhellach yng Nghymru.
Meddai'r Gweinidog Twristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas:
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates:
Dywedodd Ei Ardderchowgrwydd Mr Akbar Al Baker, Prif Weithredwr Grŵp Qatar Airways:
Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd,

"Mae'n newyddion da iawn ein bod wedi gallu cydweithio â Qatar Airways ar y cytundeb partneriaeth marchnata arwyddocaol hwn. Mae'r llwybr newydd yn creu cyfle newydd i hybu twristiaeth byd eang, gwella cysylltiadau masnach a hefyd hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol. Mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr rhyngwladol â Chymru yn ymweld fel rhan o daith o amgylch y DU. Bydd y llwybr newydd hwn i mewn i Gaerdydd yn creu pwynt mynediad ychwanegol i mewn i'r DU ar gyfer marchnadoedd Asia a'r Môr Tawel.
"Golyga ein cytundeb marchnata gyda Qatar Airways fod gan Gymru bellach ymgyrch hyrwyddo ar waith o fewn y marchnadoedd hyn a bydd rhagor o weithgarwch yn digwydd yn ystod cyfnodau archebu allweddol dros y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn sicrhau lle mwy amlwg i Gymru o fewn y marchnadoedd hyn fel bod defnyddwyr a'r diwydiant teithio'n ymwybodol o'r hyn y gall ei gynnig. Rydym yn edrych ymlaen at feithrin a chynnal cysylltiadau wrth i ni anelu at godi rhagor o ymwybyddiaeth o Gymru a'r posibiliadau sydd yma - a hefyd at groesawu rhagor o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates:
“Bydd lansio teithiau awyr uniongyrchol rhwng Doha a Chaerdydd yn ddiweddarach eleni’n creu cyfleoedd sylweddol i ni atgyfnerthu ein cysylltiadau economaidd, gyda Qatar a hefyd gyda marchnadoedd eraill arwyddocaol gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Tsieina, India a Japan.
“Rydym yn gwybod bod Cymru’n lle gwych i fyw ynddi, i ymweld â hi ac i drafod busnes ond wrth i ni wynebu’r heriau a’r cyfleoedd a fydd ynghlwm wrth Brexit mae’n bwysicach nag erioed fod y neges hon yn cael ei lledaenu’n glir ac yn uchel ar draws y byd. Rwy’n croesawu’r Cytundeb Partneriaeth Marchnata hwn ac mae’n cynrychioli un o’r nifer o ddulliau rydym yn eu defnyddio er mwyn tynnu rhagor o sylw at Gymru ac ehangu ein gwaith o fewn marchnadoedd tramor.”
Dywedodd Ei Ardderchowgrwydd Mr Akbar Al Baker, Prif Weithredwr Grŵp Qatar Airways:
"Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau hediadau uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha ar y 1af o Fai eleni, bydd hyn yn agor Cymru i'r rhwydwaith byd eang o dros 150 o gyrchfannau. Mae Caerdydd nid yn unig yn cynnig porth unigryw ac uniongyrchol i galon Cymru ond hefyd ehangu’r dewis o gyrchfannau ymwelwyr ar draws y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i arddangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig i’n teithwyr tramor."
Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd,
"Bydd y cyfleoedd a fydd yn deillio o'r gwasanaeth newydd hwn i Gymru yn chwyldroadol ar gyfer busnesau a theithwyr. "Mae'n bleser gan Faes Awyr Caerdydd wasanaethu pobl Cymru."