Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cymru yn ddigon dewr i gyflawni ei chenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, heddiw wrth i ganlyniadau PISA gael eu cyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r adroddiad cenedlaethol ar gyfer Cymru yn dangos bod canlyniadau yn sefydlog. Roedd y cynnydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig (DU) i’w gweld yn sgôr Cymru ar gyfer mathemateg.

Meddai Kirsty Williams:

“Gallwn ni i gyd gytuno nad ydym ble rydym eisiau bod eto. Er bod ein sgôr mathemateg 10 pwynt yn uwch, mae’r canlyniadau ar gyfer gwyddoniaeth yn siomedig.

“Fis diwethaf, gwnes i wahodd yr OECD i edrych ar sut rydym ni’n ei wneud yng Nghymru. Roedd eu cyngor yn ddiamwys: Daliwch ati, byddwch yn ddewr, rydych yn gwneud y pethau iawn.

“Mae’r gwaith caled wedi dechrau. Mae gennym gynlluniau mewn lle i ddatblygu gweithlu proffesiynol ardderchog a chwricwlwm newydd ac rydym yn cyflwyno cymwysterau cynhwysfawr a fydd yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ond rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud.

“Efallai bod PISA yn hollti barn, ond dyna yw’r meincnod sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer sgiliau. Nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i ddangos i’n hunain ac i’r byd fod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu gyda’r gorau. Mae’r hen drefn yn newid. Mae cenhedloedd bach, arloesol eraill wedi achub y blaen arnom o ran eu teithiau diwygio. Ond os oes modd i Iwerddon ac Estonia wneud hyn, gallwn i ei wneud hefyd.

“Rwy’n hyderus bod ein pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth a datblygu athrawon, a chydgyfrifoldeb yn ein galluogi i gyrraedd y safonau uchaf. Mae PISA yn ein galluogi i gymharu ein hunain yn erbyn y byd – mae’n rhaid i bawb yn ein system ddeall hynny. 

“Y peth hawdd fyddai rhwygo’r cynllun a dechrau eto. Ond mae gennym ddyletswydd i’n disgyblion, i’n rhieni ac i’r proffesiwn i wneud beth sy’n iawn. Mae’r OECD wedi defnyddio Portiwgal fel enghraifft o wlad sydd wedi gwella llawer. Mae wedi eu cymryd 14 mlynedd i wneud hynny, drwy barhau â diwygiadau sy’n gweithio, aros yn gadarn a dilyn y cwrs. Gwnaethant y penderfyniadau anodd roedd angen eu gwneud ac yn elwa ar hynny nawr. Bydd angen i Gymru fod yr un mor ddewr i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg.”