Diolch i £1.7m yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, bydd athrawon newydd yng Nghymru yr amharwyd ar eu hyfforddiant oherwydd y pandemig yn cael cyfnod o gyflogaeth i'w helpu i gael rolau newydd.
Wrth i’r pandemig amharu ar addysg, collodd llawer o athrawon dan hyfforddiant ar draws Cymru y cyfle i fagu profiad drwy hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth.
Wrth i ysgolion newid i ddarparu gwasanaethau'n ddigidol, cyflwynodd athrawon mewn hyfforddiant eu gwersi ar-lein.
Gyda'r flwyddyn ysgol newydd yn dechrau ym mis Medi a disgyblion o bob oed yn dychwelyd i’w dosbarthiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.7m yn ychwanegol o gyllid i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso (ANG) yn cael cyfnod o gyflogaeth i gefnogi'r broses o drosglwyddo i addysgu.
Bydd y cyllid yn cefnogi ANG drwy gydol tymor yr hydref, gan roi iddynt yr hyfforddiant, y profiad a'r hyder sydd eu hangen arnynt. Yn ogystal â rhoi mwy o gyfle i ANG gael hyfforddiant a mentora, bydd y cymorth hefyd yn caniatáu i ysgolion gynyddu capasiti a rhyddhau athrawon eraill i roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr sy'n agored i niwed.
Mae'r cyllid ychwanegol yn dod â chyfanswm cymorth Llywodraeth Cymru i ANG yn ystod y flwyddyn ariannol i £7.7m, fel rhan o becyn gwerth £39.1m o gyllid ehangach i gefnogi cynlluniau Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth parhaus ar gyfer y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, a chefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd arholiad i symud i gam nesaf eu haddysg.
Mae'r cymorth newydd yn agored i ANG nad ydynt eisoes wedi dod o hyd i waith amser llawn gydag ysgol, ac mae mwy na 400 wedi'u lleoli mewn ysgolion ledled Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Rydym yn gwybod bod y flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i ddysgwyr ac athrawon – ac fe wnaeth effeithio'n arbennig ar hyfforddiant athrawon newydd, gan nad oeddent wedi gallu cael y profiad y byddent fel arfer wedi'i gael yn ystod blwyddyn ysgol ‘normal’.
Bydd y cymorth newydd hwn yn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i adeiladu ar eu sgiliau addysgu wyneb yn wyneb, cynllunio a gwerthuso cynnydd eu dysgwyr dros gyfnod hwy o amser ac adeiladu ar yr arbenigedd sydd ei angen arnynt i gwblhau eu cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus.
Fe wnaeth y rhai a aeth ati i hyfforddi fel athrawon yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf weithio’n eithriadol o galed, ac mae'n iawn ein bod yn eu cefnogi ac yn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gallu cadw eu harbenigedd hanfodol.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
Wrth i ni symud y tu hwnt i'r pandemig, mae'n hanfodol bod athrawon newydd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau newydd.
Bydd yr arian ychwanegol hwn yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i ni weithio i adeiladu Cymru decach, wyrddach, gryfach a mwyfwy llwyddiannus.