Neidio i'r prif gynnwy

Bydd awdurdodau ar draws Cymru yn cael cyfanswm o £2.8 miliwn i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd a ddifrodwyd yn ystod y stormydd diweddar, a hwb ariannol i’w helpu i greu mwy o gynlluniau amddiffyn eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r arian hwn yn ychwanegol i’r £8 miliwn sydd eisoes wedi’i ddarparu i unigolion, busnesau ac awdurdodau lleol wrth iddynt ymdopi yn sgil y llifogydd.

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y pecyn cyfunol newydd o gymorth heddiw. Bydd yn helpu i gefnogi’r cymunedau hynny sy’n adfer yn sgil llifogydd y gaeaf ac sydd hefyd bellach yn wynebu’r pandemig COVID-19 - gyda llawer o bobl yn gorfod hunanynysu mewn cartrefi sydd wedi’u difrodi gan y llifogydd diweddar.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn newid rhai o’r rheolau yn ei Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) a’r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol (CRMP) er mwyn medru mynd ati’n rhagweithiol i gynllunio amddiffynfeydd llifogydd yn y dyfodol yng nghyd-destun y stormydd diweddar a’r pandemig coronafeirws sy’n parhau ar hyn o bryd.

Ymhlith rhai o’r newidiadau hynny y mae:

  • Cynyddu cymorth cyllid ar gyfer paratoi a llunio cynlluniau llifogydd newydd i 100%, i ganiatáu i awdurdodau gyflwyno eu syniadau, a datblygu prosiectau i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol
  • Cynyddu’r gyfradd grant ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd arfordirol i 85% o’r 75% presennol
  • Caniatáu i gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru ymgeisio am gyllid ar gyfer rhaglenni drwy gydol y flwyddyn, os yw cyfalaf yn dal i fod ar gael
  • Buddsoddi £4.3 miliwn mewn amddiffynfeydd llai a gwaith cynnal a chadw ar gyfer awdurdodau lleol
  • Clustnodi £1 filiwn ar gyfer gweithredu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol, ar sail peilot dros ddwy flynedd, a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru
  • Ailgydio mewn cynlluniau arfaethedig a all fod angen cymorth pellach gan bartneriaid

Bydd y rheolau diwygiedig yn caniatáu i Awdurdodau Rheoli Perygl gyflwyno mwy o blaniau ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd; cefnogi’r gwaith o gynllunio cynlluniau newydd yn yr hirdymor; cynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer eu dylunio a’u hadeiladu, a chaniatáu i’r Awdurdodau hynny gynllunio amrywiaeth ehangach o gynlluniau.

Mae’r uchod yn ychwanegol i’r £1.5 miliwn o gyllid ar gyfer atgyweiriadau brys yn sgil llifogydd – yn dilyn yr £1.2 miliwn a gyhoeddwyd yn gynharach yn ystod y mis, gan ddod â chyfanswm yr arian ar gyfer atgyweiriadau i £2.8 miliwn.

Mae rhai o’r cynlluniau y mae arian ar gyfer atgyweiriadau eisoes wedi’i glustnodi ar eu cyfer yn cynnwys:

  • Bron £100,000 i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer atgyweirio cwlfertau, llwybrau ac ardaloedd llanw
  • £350,000 i Gyngor Conwy ar gyfer atgyweiriadau penodol yn Llanrwst, Bae Cinmel a Bron Derw
  • £250,000 i Gyngor Gwynedd i gyflawni atgyweiriadau brys i Bromenâd y Gogledd yn Abermo
  • £450,000 i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cwlfertau a sgriniau, ynghyd ag arolwg a gwaith atgyweirio pellach i fesurau amddiffyn eraill
  • £308,000 i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer atgyweirio draeniau a cwlfertau

 - ynghyd â chymorth pellach i awdurdodau a chynlluniau eraill yng Nghymru.

Caiff awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru eu hannog o hyd i ymgeisio cyn gynted â phosibl am gyllid brys i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd hanfodol.

Mae taliadau brys ar gyfer gwaith atgyweirio sydd eisoes wedi’u cymeradwyo yn cael eu darparu.

Dywedodd Ms Griffiths:

Rydym yn gwybod bod llawer sy’n dioddef o’r pandemig parhaus yn byw mewn cartrefi sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi teimlo effaith y llifogydd diweddar – gan gynnwys gorfod hunanynysu ynddynt.

Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn gallu rhoi’r hyder sydd ei angen ar bobl drwy ddarparu cymorth, ac rydym yn parhau i gynghori’r bobl hynny nad ydynt wedi cael cymorth hyd yma i gysylltu â’u hawdurdodau lleol.

 Yn ogystal â darparu cyllid ychwanegol ar gyfer atgyweirio amddiffynfeydd a ddifrodwyd gan y llifogydd, rydyn ni hefyd am annog awdurdodau i ddatblygu mwy o gynlluniau i reoli’r perygl hirdymor a berir gan lifogydd a rhoi tawelwch meddwl i’w cymunedau.

Bydd ein cymorth yn helpu i leihau’r baich ariannol y mae llawer o awdurdodau yn ei wynebu wrth iddynt ailadeiladu amddiffynfeydd presennol a chynllunio ar gyfer gwaith yn y dyfodol sy’n ymwneud â llifogydd a’r arfordir.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Ar wahân i’r gwaith atgyweirio, rwyf am weld cynlluniau llifogydd ac arfordirol arfaethedig yn cael eu hybu a phrosiectau ychwanegol yn cael eu dwyn ymlaen i atgyfnerthu amddiffynfeydd fel bod pobl yn gallu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rwyf hefyd yn annog preswylwyr i edrych ar ei yswiriant tŷ eto - mae nifer o bobl yn anymwybodol o'r ffaith bod cynllun yswiriant o'r enw Flood Re ar gael dros ledled y DU, sy'n helpu perchnogion i gael at yswiriant llifogydd fforddiadwy, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu gwrthod am yswiriant yn y gorffennol.