Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, y bydd gwasanaethau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yng Nghymru yn cael £1.5 m ychwanegol mewn refeniw i'w helpu i ymateb i alwadau cynyddol ar wasanaethau o ganlyniad i Covid-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid newydd yn ychwanegol at y £5.25m presennol a gyhoeddwyd yng nghyllideb eleni, a bydd yn anelu at helpu darparwyr gwasanaethau VAWDASV i ymdopi â’r cynnydd sydyn a ddisgwylir yn y galw am wasanaethau ar ôl i fesurau ar gyfyngiadau symud gael eu codi.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid VAWDASV a darparwyr arbenigol i ddyrannu cyllid ar sail anghenion, ac yn y ffordd symlaf a chyflymaf posibl. Bydd y meysydd canlynol yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth:

  • Helpu darparwyr gwasanaethau VAWDASV i baratoi ar gyfer y galw ychwanegol am gymorth a’u bodloni wrth i gyfyngiadau ar symud gael eu llacio, gan gynnwys cymryd rhagofalon yn erbyn lledaeniad Covid-19
  • Cymorth i blant a phobl ifanc sy'n dioddef cam-drin domestig
  • Hyfforddiant staff i gyflenwi ar gyfer aelodau o staff sy'n gwarchod eu hunain, ac i fodloni anghenion staffio cynyddol oherwydd y galw
  • Gwasanaethau i gefnogi newid ymddygiadol ymhlith cyflawnwyr camdriniaeth
  • Adnoddau ychwanegol i leihau ôl-groniadau a rhyddhau capasiti i'r rhai sydd angen cymorth brys

Lansiodd y Gweinidog hefyd gam nesaf yr ymgyrch 'ddylai neb fod yn ofnus gartre' i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig drwy gydol y cyfyngiadau ar symud a’r tu hwnt.

Mae tuag 1 o bob 3 o fenywod, ac 1 o bob 6 o ddynion, yn dioddef cam-drin domestig rywbryd yn eu bywydau. Mae'n amhosibl mesur graddfa'r gamdriniaeth sy'n digwydd yn ystod y cyfyngiadau symud, ond mae tystiolaeth gref i awgrymu ei bod ar gynnydd.

Mae ymweliadau â gwefan Byw Heb Ofn wedi cynyddu 144% yn y mis diwethaf a chafwyd 1,683 o ymweliadau â’r hafan ym mis Ebrill o’i gymharu â 690 ym mis Mawrth.

Mae cysylltiad pendant rhwng pwysau bywyd - er enghraifft caledi economaidd, ofnau am gyflogaeth, a'r rhwystredigaeth sy'n deillio o’r cyfyngiadau presennol – a chamdriniaeth, er nad oes byth esgus.

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau mae galwadau i linellau cymorth cam-drin domestig wedi newid yn sylweddol, gan ddod yn fwy cymhleth, ac yn hirach (bellach bron ddwywaith y 3.18 munud cyn-Covid-19 ar gyfartaledd). Mae gwasanaethau'n dechrau clywed gan ddioddefwyr sy'n dweud eu bod yn bwriadu gadael y rhai sy'n eu cam-drin pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.

Dywedodd Jane Hutt:

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r cyllid newydd hwn, a fydd yn helpu'r rhai sydd wedi bod yn dioddef rheoli, manipwleiddio, aflonyddu, cam-drin corfforol a rhywiol yn ogystal â thrais, ac sydd angen cefnogaeth yn ddybryd.

Rydyn ni'n gwybod bod cam-drin domestig wedi cael ei wneud yn llawer gwaeth drwy fod yn gaeth i’r cartref gyda'ch camdriniwr yn ystod y cyfyngiadau symud. Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, gobeithio y bydd yn dod yn haws ac yn fwy diogel i ddioddefwyr a goroeswyr gael y cymorth y mae arnynt ei angen.

Ni ddylai neb deimlo’n ofnus gartref. Os ydych yn destun rheolaeth drwy orfodaeth gartref, neu'n pryderu am rywun, rwyf am i chi wybod nad ydych ar eich pen eich hub. Mae cymorth ar gael gan linell gymorth Byw Heb Ofn, 24 awr y dydd.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Minister Rebecca Evans:

Mae hwn yn gyfnod anodd tu hwnt i gynifer o bobl, ond mae'n arbennig o anodd i'r rhai sy'n wynebu mwy o risg o gael eu cam-drin yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Mae'n frawychus gweld y cynnydd cyflym yn nifer y galwadau am gymorth, er nad yw'n annisgwyl yn anffodus.

Rwyf wedi diogelu'r arian hwn fel blaenoriaeth yn ystod argyfwng Covid-19 i gadw a gwella gwasanaethau hanfodol ar draws y sector, er mwyn hybu eu cadernid ac i sicrhau eu bod yn gallu rhoi cymorth brys i'r rhai sydd ei angen.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod Cymru, Sara Kirkpatrick:

Mae Cymorth i Ferched Cymru’n croesawu'r newyddion am y swm hwn o £1,575,000 ar gyfer y sector. Bydd y cyllid yn cynorthwyo gwasanaethau arbenigol i barhau i ddarparu cymorth sy’n gallu achub bywydau a newid bywydau i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Rydym wrth ei nbodd y bydd y refeniw hwn yn canolbwyntio ar gefnogi'r meysydd blaenoriaeth a amlygwyd gan ein haelodau, a hynny’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, a thrwy Grŵp Strategol Covid-19 VAWDASV.

Mae'r cyllid hwn yn arbennig o hanfodol ar hyn o bryd - gan bwyso a mesur tystiolaeth fyd-eang, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd mawr yn nifer y goroeswyr sy'n gallu ac sy’n dymuno cael mynediad at gymorth wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio  ledled y wlad. Mae'n hanfodol bwysig bod gwasanaethau'n gallu diwallu anghenion yr holl oroeswyr y mae arnynt angen cymorth.