Neidio i'r prif gynnwy

Bydd datblygiad Tai Calon yn Glanffrwd yng Nglyn Ebwy yn dod â 23 o gartrefi newydd sy'n defnyddio ynni yn effeithlon i helpu i leddfu prinder tai lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai dwy, tair a phedair ystafell wely, byngalos dwy ystafell wely a fflatiau un ystafell wely.

Mae Tai Calon wedi derbyn dros £4m o gyllid Grant Tai Cymdeithasol (SHG) gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r prosiect.

Mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i ariannu cynlluniau tai fforddiadwy gan yr awdurdodau lleol ac i adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd er mwyn helpu i fwrw'r targed a bennwyd ar gyfer tymor y llywodraeth hon. 

Fel pob adeilad newydd yng Nghymru, bydd y cartrefi yn cydymffurfio â gofynion ansawdd datblygu Cymru (WDQR) 2021 yn ogystal â Safonau Cartrefi Gydol Oes, gan sicrhau bod y cartrefi'n fodern, yn effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant:

"Mae tai fforddiadwy, ac yn fwy penodol, tai cymdeithasol fforddiadwy, yn dal i fod yn un o'n blaenoriaethau allweddol.

"Bydd datblygiad Tai Calon nid yn unig yn cyfrannu tuag at ein targed tai fforddiadwy, ond bydd effeithlonrwydd ynni'r cartrefi yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a thlodi tanwydd.

"Mae'r cartrefi hyn yn helpu i osod y safon ar gyfer cartrefi yn y dyfodol ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd trigolion lleol yn elwa pan fyddant wedi'u cwblhau yn ddiweddarach eleni."

Roedd Howard Toplis, Prif Weithredwr Tai Calon yn falch iawn o allu dangos y cartrefi hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi helpu i'w hariannu. 

"Roedd yn wych cael Ysgrifennydd y Cabinet i ymuno â ni i weld y cartrefi newydd hyn o safon uchel, ynghyd â chwrdd â rhai o'r tenantiaid a fydd yn symud i mewn cyn bo hir.

"Bodloni cwsmeriaid yw ein cenhadaeth a dyna mae'r cartrefi helaeth hyn sy’n effeithlon o ran ynni'n ei wneud. Hefyd, mae gan Tai Calon y tir i adeiladu hyd yn oed mwy o gartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen ym Mlaenau Gwent."