Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Medi 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Yn dilyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, rydym wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau ar gyfer bwyd a maeth mewn lleoliadau gofal plant.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 377 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn am ganllawiau drafft i helpu lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig i ddarparu bwyd a diod iach.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r canllawiau hyn yn diweddaru canllawiau 2009 Llywodraeth Cymru ac yn adlewyrchu'r dystiolaeth bresennol. Maent yn fwy cynhwysfawr ac yn cynnwys cymorth ymarferol megis bwydlenni a ryseitiau enghreifftiol er mwyn helpu lleoliadau i ddarparu prydau, byrbrydau a diodydd maethlon i blant dan eu gofal.