Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac arddangos sector bwyd a diod ffyniannus Cymru mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Iwerddon, Llundain ac yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn arwain Taith Datblygu Masnach gyda chwmnïau bwyd a diod i Ddulyn rhwng 28 Chwefror a 2 Mawrth.

Bydd gan 13 o gwmnïau bwyd a diod, o fragwyr i gynhyrchwyr cyffeithiau, gyfle i godi proffil eu cynhyrchion rhagorol a cheisio denu busnes newydd drwy gyfarfod â phrynwyr cenedlaethol o bob cwr o Iwerddon.

Yn ystod yr ymweliad masnach, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i frecwast busnes a chynnal cyfarfod bord gron â buddsoddwyr a chwmnïau bwyd a diod blaenllaw i drafod heriau a chyfleoedd Brexit. Bydd hefyd yn mynd i dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym mhreswylfa’r Llysgennad.

Gan siarad cyn y daith fasnach, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Ni fu erioed amser gwell i fwyd a diod Cymru – mae’r sector yn ffynnu ac mae’n symbol o’n gwlad.  Mae gwerthiant yn cynyddu’n gyflym ac rydyn ni’n agos iawn eisies at gyrraedd ein targed ar gyfer 2020 i gynyddu gwerthiant i £7 biliwn.

“Gan fod 20% o allforion bwyd a diod Cymru eisoes yn mynd i Iwerddon, mae’r daith fasnach hon yn gyfle gwych i adeiladu ar hyn a sicrhau contractau newydd mewn marchnadoedd tramor.  Mae’n rhan o’n hymgyrch i gefnogi allforion Cymru, sy’n hanfodol i economi Cymru gan fod allforio yn creu a diogelu swyddi.

“Gyda’i heconomi gref, mae Iwerddon a gwledydd tebyg, lle mae’r bobl yn gwerthfawrogi bwyd da, yn farchnad hanfodol i’n cynhyrchwyr, ac maent yn cyfrannu at ein targed i ehangu’r diwydiant 30% i £7 biliwn erbyn 2020 – targed rydyn ni’n agos iawn at ei gyrraedd yn gynnar.  Dw i’n sicr y bydd pobl Iwerddon yn cytuno bod ansawdd ein bwyd a diod ymhlith y gorau yn y byd."

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd cynhyrchwyr o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i annog pobl i brynu cynnyrch o Gymru yn ystod mis Mawrth drwy gymryd rhan yn y dathliad mwyaf erioed o fwyd a diod Cymru i’w gynnal yn y DU.  Byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU i ddangos bod bwyd a diod Cymru ymhlith y rhai gorau yn y byd o ran ansawdd a gwerth am arian.

Bydd pobl sy’n byw yn Llundain, a’r bobl sy’n ymweld â’r brifddinas, yn cael cyfle i flasu nifer o samplau o gynnyrch gwych Cymru. Bydd cyfle gan gwsmeriaid Waitrose yn Oxford Street a Canary Wharf i flasu cynnyrch hyfryd o Gymru megis picau ar y maen a chaws traddodiadol, ac iogwrt a wafflau. Bydd samplau o gwrw a chwisgi o Gymru ar gael hefyd.  Bydd samplau i’w blasu a’u cadw ar gael yn Borough Market a gorsaf drên Paddington. 

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Ni fu diddordeb pobl ym mwyd a diod bendigedig Cymru erioed mor fawr. Mae’n diwydiant bwyd a diod yn werthfawr iawn inni - mae gennym rywbeth gwych i’w gynnig. Dw i’n falch bod cynifer o gynhyrchwyr yn dod at ei gilydd i annog pobl ledled Cymru i flasu a phrynu cynnyrch rhagorol ein gwlad.”

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Gweinidog yr Amgylchedd hefyd yn ymweld â bwyty Dylans yn Llandudno i ddysgu am gynlluniau’r perchnogion i gynhyrchu mwy o’u cynhyrchion rhagorol.