Mae'r diwydiant bwyd a diod wedi nodi trosiant o £6.1bn yn 2015 ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 30% o gynnydd mewn trosiant i £7bn erbyn 2020.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y diwydiant bwyd a diod wedi nodi trosiant o £6.1bn yn 2015 ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 30% o gynnydd mewn trosiant i £7bn erbyn 2020.
Mae’r trosiant yn y sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi cynyddu 17% ers Tuag at Dwf Cynaliadwy, Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant yn 2014.
Mae’r sector yn dylanwadu llawer ar economi Cymru, gan gyflogi 223,000 o bobl, a throsiant o £16.8bn ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd a diod.
Yn 2015, roedd allforion bwyd a diod Cymru werth dros £264 miliwn, a 90% ohono’n cael ei allforio i’r UE. Mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw Llywodraeth Prydain at bwysigrwydd sicrhau bod busnesau a buddsoddwyr yng Nghymru yn parhau i gael mynediad di-dor i’r Farchnad Sengl.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn crwydro’r neuadd fwyd heddiw yn y Sioe Frenhinol i weld drosti ei hun pam bod cynnyrch Cymru mor boblogaidd ac i drafod y cyfleoedd a’r heriau wedi Brexit i gynnal y safon uchel hwn.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae sector bwyd a diod Cymru yn un o’n llwyddiannau economaidd, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant i adeiladu ar ei lwyddiannau.
“Mae penderfyniad y DU i adael yr UE wedi creu ansicrwydd ac rwyf am ddefnyddio fy amser yn y Sioe Frenhinol i roi sicrwydd i gynhyrchwyr y byddwn yn ymladd i’r DU drafod telerau i sicrhau mynediad i 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl.
“Fodd bynnag, fel gwlad, rydym yn cynnal busnes ledled y byd ac mae’n rhaid inni yn awr anelu i wneud mwy. Rydym yn parhau i gefnogi ein cwmnïau bwyd a diod i sicrhau busnes tramor drwy ein Rhaglen Cymorth Allforio a’n Rhaglen Digwyddiadau ym Mhrydain a Thramor, y ddwy raglen wedi sicrhau busnes o dros £6.5miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf a gwerth £12miliwn o gyfleoedd wedi eu cofnodi.
“Mae’n rhaid inni adeiladu ar hyn a llunio cysylltiadau newydd gyda gweddill y byd. Mae’n amlwg o’r cynnyrch rhagorol yn y Sioe Frenhinol bod gennym gynnyrch gwych ac unigryw. Mae’n rhaid inni fod yn ddewr ac yn hyderus wrth ei werthu i weddill y byd.”