Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun Bwrsari'r GIG ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio i fod yn nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn parhau i gael ei gynnig yng Nghymru yn 2017/18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, lle bydd y bwrsari'n dod i ben, bydd y rhai sy'n dechrau hyfforddi ar gwrs cymwys sy'n gysylltiedig ag iechyd yng Nghymru ym mis Medi 2017 yn gallu manteisio ar y cyllid.
Caiff y bwrsari ei roi ar y sail bod yr unigolyn yn ymrwymo ymlaen llaw i fanteisiio ar y cyfle i weithio yng Nghymru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

"Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn dangosi ein bod ni yma yng Nghymru'n barod i fuddsoddi yn y bobl hynny sydd ag ymrwymiad i’n gwasanaeth iechyd. 

“Er mwyn gwneud yn siwr bod gennym y gweithlu sydd ei angen arnom yng Nghymru, rwy’n credu ei bod yn bwysig bod unrhyw fuddsoddiad ychwanegol a wneir mewn hyfforddi a datblygu yn cael ei gyfuno â chyfle i weithio yng Nghymru a bod y rhai sy’n elwa o’r cynllun yn ymrwymo i wneud cyfraniad yng Nghymru.

"Bydd trefniadau hirdymor i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio pynciau cysylltiedig ag iechyd yn cael eu hystyried ar y cyd ag argymhellion yr adolygiad annibynnol ar ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr a arweiniwyd gan yr Athro Diamond.

"Ry'n ni'n cymryd camau cadarnhaol i ddenu mwy o weithwyr iechyd proffesiynol o Gymru a gweddill y DU i i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.  Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant y rheini sy'n dymuno gweithio yn y gwasanaeth iechyd."