Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd bwrsariaeth y GIG yng Nghymru yn cael ei hymestyn i fyfyrwyr sy'n dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe gafodd y fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd perthynol cymwys, ei dileu yn Lloegr yn 2017. 

Yng Nghymru, bydd y pecyn bwrsari llawn yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yma am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. 

O'r 2180 o fyfyrwyr a ymgeisiodd am fwrsariaeth yn 2017/18, dim ond 3% wrthododd weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso, gan olygu y bydd mwyafrif llethol y myfyrwyr sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn gweithio yng Nghymru ar ôl eu hastudiaethau. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

Myfyrwyr gofal iechyd yw dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Dyna pam rydyn ni, yn wahanol i Loegr, yn parhau i'w cefnogi yn ystod eu hastudiaethau yn gyfnewid am ymrwymiad i weithio yng Nghymru. 

Mae hyn yn arwydd clir ein bod yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal iechyd, ac yn dangos ein hymrwymiad at ddyfodol ein Gwasanaeth Iechyd.

Ychwanegodd:

Yn ogystal ag ymrwymiad i ymestyn y fwrsariaeth, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yng ngweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ers 2014, mae nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd wedi codi 68%. Rydyn ni hefyd yn cymryd camau cadarnhaol i ddenu mwy o weithwyr iechyd proffesiynol o'r DU a thu hwnt i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw.