Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener 29ain) y bydd Bwrsariaeth GIG Cymru yn cael ei hestyn tan 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyhoeddiad yn golygu bod modd rhoi gwybodaeth eglur i fyfyrwyr a darparwyr am drefniadau’r fwrsariaeth ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf. 

Bydd y fwrsariaeth, sydd ddim are gael yn Lloegr, ar gael i ddau gohort ychwanegol ym mlynyddoedd academaidd 2021/2022 a 2022/2023 a bydd ar gael i nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Drwy estyn y cynllun bwrsariaeth tan 2023 rydym yn dangos ein hymrwymiad i hyfforddiant, a bydd hyn yn ein helpu i ddenu mwy o bobl i weithlu GIG Cymru. 

“Bydd y pecyn llawn yn dal ar gael yng Nghymru i’r rhai a fydd yn ymrwymo i weithio yma am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Mae’r estyniad yn dangos gymaint yr ydym yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal iechyd, a byddwn yn eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau er mwyn creu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Rydym yn credu’n gryf y dylai’r cyfle i gael addysg uwch gael ei seilio ar botensial yr unigolyn i fanteisio arno, yn hytrach nag ar faint y mae’n medru fforddio’i dalu. Mae’r cymorth estynedig rydyn ni’n ei gynnig i fyfyrwyr sy’n awyddus i gael hyfforddiant iechyd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn enghraifft amlwg o’r ymrwymiad hwn.