Y bwriad i gael gwared ar asesiadau papur ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol yng Nghymru a chyflwyno yn eu lle asesiadau ar-lein arloesol.
Ar hyn o bryd mae disgyblion rhwng blwyddyn dau a blwyddyn naw yn sefyll eu profion ar bapur. Eu bwriad yw dysgu mwy am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion er mwyn gweld beth yn union y mae angen i bob plentyn ganolbwyntio arno er mwyn gwella.
Bydd y profion papur yn cael eu disodli gan asesiadau personol newydd a fydd yn cael eu cynnal ar-lein ac wedi'u cynllunio'n benodol i'w defnyddio yng Nghymru. Bydd yr asesiadau newydd yn addasu'n awtomatig lefel y cwestiynau i gyd-fynd â'r unigolyn a fydd yn sefyll y prawf er mwyn cynnig her briodol i bob dysgwr.
Bydd newid i gynnal y profion ar-lein yn lleihau amser marcio a gweinyddu.
Bydd y manteision yn cynnwys:
- Asesiadau sydd wedi'u teilwra i ddisgyblion unigol
- Gwybodaeth fanylach am berfformiad plentyn
- Adborth cyflymach i athrawon a dysgwyr
- Hyblygrwydd i ysgolion brofi dosbarthiadau, grwpiau bach neu unigolion yn unol â'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt ac ar adeg sy'n gweddu iddynt hwy a'u dysgwyr.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Diben y profion hyn yw codi safonau drwy ddangos y camau nesaf mae angen i ddysgwyr eu cymryd wrth ddysgu. Bydd symud tuag at asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen a rhifedd o fudd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon fel ei gilydd.
"Bydd y disgyblion yn gwneud asesiadau a fydd yn addasu i'w hanghenion a'u sgiliau. Byddant hefyd yn elwa ar y marcio awtomatig a bydd ysgolion yn derbyn adborth yn gynt nag o'r blaen ac yn cael gwell darlun o'r hyn y gallant ei wneud i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen.
"Mae'r dull hwn wedi'i deilwra i Gymru. Mae'n dangos sut rydyn ni'n buddsoddi yn ein hysgolion i fwrw ymlaen â'n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg er mwyn gwella safonau a sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i wireddu ei botensial."