Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrh Vaughan Gething AS
  • Rhun ap Iorwerth AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol (4 Mawrth 2024)

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Bwrdd Trosolwg o dan ei ddeiliadaeth. Nododd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol ar 4 Mawrth a oedd eisoes wedi’u cymeradwyo.

Eitem 2: Diweddariad ar y Cytundeb Cydweithio: tymor yr Haf 2024

2.1 Nododd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ddiweddariad tymor yr Haf y Cytundeb Cydweithio. Roedd y Bwrdd yn ddiolchgar am y diweddariad, gan nodi'r swm sylweddol o waith oedd yn digwydd a'r meysydd hynny lle byddai angen penderfyniadau cyn toriad yr haf. Nododd y Bwrdd arwyddocâd y diwrnod gyda Chyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw. 

Eitem 3: Materion i’w codi