Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Rhun ap Iorwerth AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol (12 Hydref 2023)

1.1 Derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd, gan gynnwys cyfathrebu

2.1 Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Cytundeb Cydweithio’r diweddariad ar gynnydd a oedd yn cwmpasu'r 46 ymrwymiad. Roedd y Bwrdd yn ddiolchgar am y diweddariad a nododd fod cryn dipyn o waith wedi digwydd ers cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ym mis Rhagfyr. Nododd y Bwrdd y papur ar y cyd a gytunwyd ac a gyhoeddwyd ochr yn ochr â dogfennau Cyllideb Derfynol 2024-25, ac roedd yn ddiolchgar i Weinidogion, Aelodau Dynodedig, Cynghorwyr Arbennig a swyddogion am y gwaith.

Eitem 3: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

3.1 Rhoddodd y Prif Weinidog y wybodaeth ddiweddaraf i Arweinydd Plaid Cymru ar y camau nesaf o ran trafodaethau'r Cabinet yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

3.2 Trafododd y Bwrdd nifer fach o welliannau anllywodraethol a gyflwynwyd cyn y Ddadl Cyfnod 2 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) y diwrnod canlynol.