Bwrdd Trosolwg y Cytundeb Cydweithio: 3 Rhagfyr 2021
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Trosolwg ar 3 Rhagfyr 2021.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Adam Price AS
- Jane Hutt AS
- Siân Gwenllian AS
Eitem 1: Cylch Gorchwyl y Bwrdd Trosolwg
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Bwrdd.
1.2 Cytunodd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ar Gylch Gorchwyl y Bwrdd Trosolwg.
Eitem 2: Y Rhaglen Lywodraethu
2.1 Trafododd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru y fersiwn wedi'i diweddaru o'r Rhaglen Lywodraethu.
Eitem 3: Pwyllgorau Polisi
3.1 Nododd y Bwrdd y papur a oedd yn nodi'r meddylfryd cynnar ar y pwyllgorau polisi arfaethedig i'w sefydlu fel rhan o'r Cytundeb, a chytunodd ar bwysigrwydd dull hyblyg y gellid ei addasu.
3.2 Trafododd y Bwrdd ddatblygu'r rhaglen waith sy'n sail i'r Cytundeb, gan dynnu sylw at y gwaith oedd eisoes ar y gweill, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a thrafodaethau rhwng yr Aelod Arweiniol Dynodedig a'r Gweinidogion perthnasol.
Eitem 4: Unrhyw Fater Arall
4.1 Myfyriodd y Bwrdd ar eu profiadau o sut y derbyniwyd y Cytundeb, gan nodi bod ysbryd cydweithredu rhwng pleidiau wedi'i groesawu'n gyffredinol.
4.2 Nododd y Bwrdd ddatganiad y Llywydd ar effaith y Cytundeb Cydweithio ar weithdrefnau'r Senedd yr wythnos honno.