Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

1.1 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylwadau. Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi cofnodion y Bwrdd Trosolwg, mewn ffordd debyg i gofnodion y Cabinet.

Eitem 2: Diweddaru Cynnydd ac amserlenni

2.1 Trafododd y Bwrdd y cynnydd a wnaed ar wahanol feysydd polisi ers y cyfarfod blaenorol, a'r gwaith parhaus ar bapurau'r Amserlen sy'n mapio ble a phryd y mae angen trafodaethau a phenderfyniadau pellach. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gwaith yn allweddol wrth lywio trafodaethau'r Bwrdd Trosolwg.

Eitem 3: Y Gyllideb Derfynol

3.1 Roedd y Bwrdd yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed ar fanylion agweddau ariannu'r Cytundeb Cydweithio. Trafododd a chytunodd y Bwrdd ar y dull o ymdrin â'r Gyllideb Derfynol.

Eitem 4: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Rhoddodd Arweinydd Plaid Cymru ddiweddariad byr ar ei syniadau ynghylch diwygio ehangach y Senedd.

Eitem 5: Unrhyw Fater Arall

5.1 Nododd y Bwrdd y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud ar y Cytundeb ac roedd yn ddiolchgar i'r rhai sy'n ymwneud â gwneud i hyn ddigwydd.