Bwrdd Rhaglen y Glasbrint (VAWDASV): cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd Rhaglen Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rôl a diben
Mae'r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu i gefnogi'r gwaith o gyflawni Glasbrint Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026.
Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod y cerrig milltir a nodir yng Nghynllun Rhaglen y Glasbrint yn cael eu cyflawni, a rhoddir mewnbwn gan aelodau'r Bwrdd a phartneriaid lleol yn ôl y gofyn.
Bydd yn darparu fforwm lle y gall arweinwyr y ffrydiau gwaith a nodwyd adrodd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau cyflawni manwl sy'n adlewyrchu blaenoriaethau, argymhellion a chamau gweithredu yn eu meysydd nhw.
Gellir nodi risgiau hefyd a meysydd i'w huwchgyfeirio a nodi'r mewnbwn sydd ei angen gan feysydd gweithredol a pholisi i hyrwyddo cynnydd.
Bydd yr Uwch-berchnogion Cyfrifol sy'n arwain Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol VAWDASV yn adrodd i aelodau o Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV ar gynnydd yn erbyn cynlluniau cyflawni.
Prif gyfrifoldebau
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob deufis i wneud y canlynol:
- hyrwyddo a goruchwylio'r broses o gyflawni Cynllun Gweithredu a Glasbrint VAWDASV
- adrodd i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol drwy Uwch-swyddogion Cyfrifol y Glasbrint
- monitro gweithgarwch gorchwyl a gorffen/ffrydiau gwaith ac adrodd i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar ddatblygiadau a phenderfyniadau allweddol er mwyn cefnogi ei amcan o sicrhau canlyniad llwyddiannus ar gyfer Glasbrintiau VAWDASV
- darparu fforwm lle y gall arweinwyr grwpiau gorchwyl a gorffen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i'r Uwch-swyddogion Cyfrifol a thynnu sylw at unrhyw risgiau
- sicrhau bod y lefel gywir o sgiliau allweddol ac adnoddau tîm yn cael ei nodi ar gyfer ffrydiau gwaith/grwpiau gorchwyl a gorffen unigol
- darparu fforwm lle y gall y bartneriaeth ehangach roi cyngor ac argymhellion
- sicrhau bod gweithgarwch gorchwyl a gorffen yn cael ei integreiddio â ffrydiau gwaith/prosiectau eraill a/neu'n ystyried ffrydiau gwaith/prosiectau eraill fel y bo'n briodol
- datblygu cynlluniau sylfaenol a phennu terfynau goddefiant i'w cytuno gan y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol
- nodi unrhyw risgiau a materion a chynnig newidiadau/eithriadau i gynlluniau/terfynau goddefiant y cytunwyd arnynt i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
- sicrhau bod ffrydiau gwaith yn bodloni gofynion amser, cost ac ansawdd a bod yr allbynnau a'r buddiannau yn cael eu cyflawni ac y gwneir y gorau ohonynt
- monitro cynlluniau ffrydiau gwaith unigol i sicrhau eu bod yn gyson â'r cynllun gweithredu a bod unrhyw ddibyniaethau yn cael eu nodi fel y bo'n briodol
- cefnogi'r gwaith o ddatblygu metrigau perfformiad a sefydlu trefniadau monitro
- goruchwylio'r cynllun cyfathrebu lefel raglen
Wrth wraidd y strategaeth mae hyrwyddo cydraddoldeb a dealltwriaeth a mynd i'r afael â chroestoriadedd. Mae cysylltiad annatod rhwng profiad VAWDASV a ffactorau sy'n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb. Bydd deall effaith VAWDASV ar gydraddoldeb ar sail groestoriadol a chymryd agwedd cydraddoldeb yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r broblem i bawb yng Nghymru a chydnabod yr effaith gronnol y gall anfantais groestoriadol ei chael. Bydd edrych trwy lens croestoriad hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth gynhwysfawr o VAWDASV i gynnwys anghenion pawb yr effeithir arnynt gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC+. Nid yw effaith VAWDASV yn unffurf, gan effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, ac felly byddwn yn canolbwyntio yn ein hymateb trwy bob ffrwd waith, i sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb.
Aelodaeth a rolau
Caiff cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol VAWDASV eu cyd-gadeirio gan Uwch-swyddogion Cyfrifol a enwebir gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Bydd yr aelodau'n cynnwys arweinwyr grwpiau gorchwyl a gorffen/ffrydiau gwaith dynodedig, tîm cyflawni craidd Rhaglen Glasbrint VAWDASV ac uwch-berchnogion busnes o feysydd cyflawni allweddol (yn ôl y gofyn). Bydd yr aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd, Addysg, yr Heddlu, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a Chyrff Arbenigol Anllywodraethol, gan adlewyrchu'r cyrff hynny sydd â dyletswyddau allweddol o ran mynd i'r afael â VAWDASV.
Os na all arweinydd ffrwd waith a enwebwyd fod yn bresennol yng nghyfarfod Bwrdd Rhaglen VAWDASV, bydd yn gyfrifol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w Ddirprwy a/neu aelod o dîm craidd Glasbrint VAWDASV i'w rhannu ar ei ran.
Lle na ellir osgoi absenoldeb, dylid darparu cyflwyniad ysgrifenedig ymlaen llaw sy'n amlinellu unrhyw ddiweddariadau, adborth, materion neu gwestiynau i'w hystyried gan y Bwrdd.
Cyd-gadeiryddion
- Llywodraeth Cymru
- Plismona yng Nghymru
Cyflawni'r glasbrint a pholisi Llywodraeth Cymru
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
- Llywodraeth Cymru
Aelodau craidd
- Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV
- Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru
- Cyngor Sir Penfro
- Heddlu Gwent
- TUC Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cymru Ddiogelach
- Cymorth i Ferched Cymru
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
- Age Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
Amlder cyfarfodydd ac amserlenni
Caiff cyfarfodydd eu cynnal bob deufis a byddant yn dilyn agenda strwythuredig a chyson sy'n cyflawni diben busnes y cyfarfod. Caiff y cyfarfodydd hyn eu halinio â chyfarfodydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol.
Caiff cymorth gweinyddol ar gyfer y ddau gyfarfod ei ddarparu gan dîm cyflawni'r Glasbrint.
Gellir cynnull cyfarfodydd arbennig yn ôl yr angen.
Cworwm
Bydd angen nifer gofynnol o gynrychiolwyr strategol o blith arweinwyr ffrydiau gwaith (neu eu Dirprwyon a/neu gymorth gan dîm craidd y Glasbrint) er mwyn i gyfarfodydd Bwrdd Rhaglen VAWDASV fynd rhagddynt.