Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru: amdanom ni
Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn trafod materion plismona ac yn cynghori arnynt.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter ac yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.
Bydd Prif Weinidog Cymru yn cadeirio un bwrdd bob blwyddyn. Mae rhanddeiliaid pwysig yn aelodau o’r Bwrdd, gan gynnwys:
- 4 Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- 4 Prif Gwnstabl
- Uwch-swyddogion yn Llywodraeth Cymru