Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn darparu goruchwyliaeth gydweithredol er mwyn cefnogi cynnydd a chyflawni Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026.

Mae'r Bwrdd yn craffu ar weithgareddau Bwrdd Rhaglen Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a'r 6 ffrwd waith gysylltiedig i sicrhau atebolrwydd.

Mae'n cael ei gyd-gadeirio gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ym maes Trais a Cham-drin ar ran y byd plismona yng Nghymru.

Mae'r Bwrdd hefyd yn darparu fforwm i rannu penderfyniadau ac ymrwymiadau. Ymhlith yr aelodau mae uwch gynrychiolwyr ac arweinwyr strategol o bob sector a rhanbarth ledled Cymru.