Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Rôl a diben

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn darparu goruchwyliaeth gydweithredol er mwyn cefnogi cynnydd a chyflawni Strategaeth Genedlaethol VASDASV 2022 i 2026 mewn da bryd a gyda momentwm.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn sicrhau bod gwaith craffu ar berfformiad yn gydnaws â’r gweithgareddau a yrrir gan Fwrdd Rhaglen VAWDASV a’r ffrydiau gwaith cysylltiedig, er mwyn sicrhau bod gwaith gyda goroeswyr wrth galon yr atebolrwydd.

Y fforwm ar gyfer asiantaethau allweddol sy’n gysylltiedig â chyflawni Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022 i 2026. Mae’n bodoli er mwyn sicrhau bod partneriaid yn cydweithio yn effeithiol wrth ddatblygu a chyflawni’r strategaeth.

Gweledigaeth y Bwrdd yw rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Bydd y Bwrdd yn cyflawni’r uchelgais hon drwy ymrwymiad a rennir i gyflawni amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar y cyd.

Amcanion y Strategaeth Genedlaethol yw:

  • herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth a chreu gofod i drafod y materion yn gyhoeddus, gyda’r nod o’u hatal
  • cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol
  • dal y rhai sy’n cam-drin i gyfrif a chefnogi’r rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu
  • gwneud ymyrraeth gynnar ac atal yn flaenoriaeth fel rhan o ddull gweithredu’n seiliedig ar iechyd y cyhoedd
  • hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
  • darparu mynediad at gymorth a chyfiawnder i bob dioddefwr drwy wasanaethau ymatebol a chroestoriadol ledled Cymru, gwasanaethau o safon uchel sy’n seiliedig ar gryfderau, yn cael eu harwain gan anghenion ac sy’n cynnwys adnoddau priodol

Bydd y Bwrdd yn cyfrannu at yr amcanion hyn drwy gydweithrediad amlasiantaeth ac ymrwymiad i’w gilydd. Mae gwaith amlasiantaeth yn cynnwys cyrff cyhoeddus sydd wedi eu datganoli a rhai sydd heb eu datganoli, asiantaethau darparu trydydd sector, lleisiau cynrychioladol, a goroeswyr.

Rôl y Bwrdd yw:

  • dal partneriaid i gyfrif
  • sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad partneriaid gan gynnwys adrannau trawslywodraethol
  • meithrin partneriaethau effeithiol rhwng partneriaid allweddol
  • sicrhau bod yr holl bartneriaid yn ymgysylltu ac yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu a chyflawni’r Strategaeth Genedlaethol
  • sicrhau fod barn yr holl randdeiliaid, gan gynnwys goroeswyr, yn cael eu deall a’u hystyried fel rhan o ddatblygiad a dull gweithredu VAWDASV
  • darparu fforwm rheolaidd i bartneriaid drafod a chynghori ar ddatblygiadau a chynigion polisi ar gyfer cyflawni’r strategaeth

Yn y cyfarfodydd Bwrdd, bydd y grŵp yn:

  • mabwysiadu dull cydweithredol ac adeiladol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan gydnabod rôl yr holl bartïon o ran cyflawni’r nod hwnnw
  • cynrychioli barn eu sefydliad o ran datblygu a chyflawni’r Strategaeth, cynnig atebolrwydd gilyddol drwy rannu gwybodaeth yn agored, gan gynnwys mesurau perfformiad ac ymrwymo i sicrhau y bydd eu sefydliad yn cyflawni camau gweithredu
  • goruchwylio rhaglen waith y cytunwyd arni (a grëwyd gan weithgorau) er mwyn cyflawni’r cydamcanion a cheisio rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru

Nid yw’r Bwrdd yn gorfodi partneriaid gydag unrhyw benderfyniad penodol. Mae gan bob sefydliad ei drefn atebolrwydd ei hun. Fodd bynnag, mae gofod sylweddol yn parhau o ran cyflawni cytundeb cydweithredol drwy ddiben cyffredin ac ymrwymiad. Drwy gytuno ar ddulliau gweithredu ar y cyd a’u cyflawni, bydd y Bwrdd yn gwneud y mwyaf o’i gyd-gyfraniad tuag y bwriad o ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth yn goruchwylio cyfres o ffrydiau gwaith, a fydd yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth, er mwyn datblygu a goruchwylio gwaith ar gamau gweithredu allweddol. Gallai’r ffrydiau gwaith hyn newid dros amser wrth i gynnydd gael ei wneud ac wrth i flaenoriaethau ddatblygu. Fodd bynnag, yn y lle cyntaf bydd y ffrydiau gwaith hyn yn mynd i’r afael â’r canlynol:

  1. Aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus
  2. Aflonyddu yn y gweithle
  3. Herio cyflawnwyr
  4. Dull cynaliadwy ar draws systemau 
  5. Anghenion pobl hŷn
  6. Anghenion plant a phobl Ifanc

Bydd Cadeirydd pob un o’r ffrydiau gwaith yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. Bydd y gweithgorau hyn yn datblygu cynlluniau gwaith, y bydd y Bwrdd yn gorfod eu cymeradwyo.

Bydd panel craffu a chynnwys Llais Goroeswyr yn cynnwys y rheini sydd â phrofiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y panel yn gallu datblygu cyngor polisi i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar ymgysylltiad defnyddwyr wrth wneud penderfyniadau ac ymgysylltu. Fodd bynnag, eu prif rôl fydd gweithio fel panel craffu, gan ystyried a gwneud sylwadau ar gyngor polisi gweithgorau eraill. Bydd cyngor a gyfeirir at y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol felly yn cynnwys safbwynt goroeswyr.

Yn ei chraidd, mae'r strategaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb a dealltwriaeth ac mae'n mynd i'r afael â chroestoriadedd. Mae cysylltiad annatod rhwng y profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a ffactorau sy'n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb. Bydd deall effaith cydraddoldeb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar sail groestoriadol a gweithredu ar sail cydraddoldeb yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r broblem i bawb yng Nghymru a chydnabod yr effaith gronnol y gall mathau croestoriadol o anfantais ei chael. Bydd edrych o safbwynt effaith croestoriadedd hefyd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys anghenion pob un o'r rhai yr effeithir arnynt gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC+. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael yr un effaith ar bawb, mae'n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, ac felly byddwn yn ymateb mewn ffyrdd penodol drwy bob ffrwd waith er mwyn sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb.

Aelodaeth a rolau

Bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cyd-gadeirio gan Lywodraeth Cymru a Plismona yng Nghymru. Dylai’r aelodau fod ar lefel ddigon uchel fel y gellir gwneud ymrwymiadau ar ran eu hasiantaethau.

Cyd-gadeiryddion

  • Llywodraeth Cymru
  • Plismona yng Nghymru

Uwch swyddogion cyfrifol

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Llywodraeth Cymru

Aelodau craidd

  • CLlLC 
  • BAWSO
  • Llwybrau Newydd
  • HMPPS
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • GLlTEF
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • OPCC y Gogledd
  • Comisiynydd Cam-drin Domestig
  • Y Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • GIG Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Arweinwyr ffrwd waith

  • Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV, Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Sir Benfro
  • Heddlu Gwent
  • TUC Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cymru Ddiogelach
  • Cymorth i Ferched Cymru
  • HMPPS 
  • Age Cymru
  • OPCC Gwent
  • Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru

Cyfarfodydd

Cynhelir y cyfarfodydd bob tri mis a byddant yn para am ddwy awr.