Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a sut y bydd yn gweithio.

Diben

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn goruchwylio Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth ar gyfer Iechyd meddwl a Lles yng Nghymru a'i Chynllun Cyflawni ategol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith. Bydd yn gwneud hynny drwy arwain a monitro'r cynnydd a thrwy hwyluso’r cyd-drefnu ar gyfer y dull trawsbynciol o weithio sydd ei angen ar draws Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Statudol, y Trydydd Sector a'r Sector Annibynnol.

Y weledigaeth

Mae'r weledigaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru wedi'i hamlinellu yn y chwe chanlyniad lefel uchel yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl:

  • Mae iechyd meddyliol a lles y boblogaeth gyfan yn gwella.
  • Mae effeithiau problemau iechyd meddwl a/neu salwch meddwl ar unigolion o bob oedran, eu teuluoedd a’u gofalwyr, cymunedau a’r economi yn cael eu hadnabod yn well ac yn lleihau.
  • Mae anghydraddoldebau, stigma a gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl a salwch meddwl yn lleihau.
  • Mae unigolion yn cael gwell profiad o ran y gefnogaeth a’r driniaeth a gânt ac mae ganddynt fwy o fewnbwn a rheolaeth dros benderfyniadau cysylltiedig.
  • Mae’r mynediad at fesurau ataliol, ymyrraeth gynnar a thriniaethau, a’u hansawdd, yn well ac mae mwy o bobl yn gwella o ganlyniad i hynny.
  • Mae gwerthoedd ac agweddau a sgiliau’r rhai sy’n trin neu’n cefnogi unigolion o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl yn gwella.

Cylch gwaith

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu arweiniad, awdurdod a chymorth i sicrhau bod y Strategaeth a'i Chynllun Cyflawni ategol yn cael eu gweithredu. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl:

  • Yn goruchwylio’r gwaith o roi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a’i Chynllun Cyflawni ar waith, gan arwain ac adolygu’r cynnydd
  • Yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd, ar faterion sy'n dod i'r amlwg, ac ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
  • Yn sicrhau bod y gwaith o roi’r Strategaeth ar waith wedi'i seilio ar werthoedd hawliau dynol, gan hybu cydraddoldeb a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a chan sicrhau bod y dull o weithredu'n seiliedig ar iechyd gydol oes
  • Yn cryfhau perchnogaeth ar y Strategaeth drwy ennyn mwy o ddiddordeb ac annog mwy o bobl i gymryd rhan a chyfranogi.

Bydd yn gwneud hynny drwy:

  • Sicrhau cyfranogiad priodol gan randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, pobl sydd â phrofiad personol eu hunain, defnyddwyr y gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr
  • Goruchwylio gwaith is-grwpiau a grwpiau gorchwyl a gorffen y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl; gan gytuno ar y blaenoriaethau i'w gweithredu, a chan adolygu'r cynnydd
  • Adolygu'r adroddiadau cynnydd blynyddol a ddarperir gan y Byrddau Partneriaeth Lleol ar weithredu blaenoriaethau'r Cynllun Cyflawni yn eu hardaloedd
  • Paratoi adroddiad blynyddol ar gyfer Cymru gyfan ar y cynnydd a'r camau nesaf
  • Cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer Cynlluniau Cyflawni dilynol, er mwyn ysgogi ac arwain y gwaith gweithredu dros gyfnod 10 mlynedd y Strategaeth
  • Rhannu'r hyn a ddysgir ac arferion gorau ar wella lles meddyliol
  • Cael pob aelod o'r Bwrdd i weithredu fel eiriolwyr ar gyfer nodau a dyheadau ehangach y Strategaeth.

Is-grwpiau

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn nodi y bydd y Grŵp Sicrhau Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r Grŵp Sicrhau Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Hŷn a Dementia yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Bydd grwpiau eraill yn cael eu cynnull yn ôl y gofyn, i gefnogi gwaith y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Llywodraethiant

Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn adrodd am gynnydd gweithredu'r Strategaeth drwy adroddiad blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet.

Nid oes gan y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl unrhyw bŵer statudol. Mae awdurdod a dylanwad y Bwrdd yn cael eu galluogi gan yr aelodau sy'n cymryd rhan ac sy'n dylanwadu ar newidiadau, a thrwy drefniadau personol yr aelodau hynny o ran atebolrwydd.

O ran cyflawni gwaith, y cyrff statudol perthnasol a'r darparwyr o'r sectorau eraill sy'n parhau i fod yn atebol. Caiff eu perfformiad ei reoli drwy brosesau sydd eisoes ar waith, ac nid drwy'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Gellir sefydlu gweithgorau, fel y bo’n briodol, i gynorthwyo a’r gwaith o roi’r Cynllun Cyflawni ar waith, drwy’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael gwybod am gynnydd y gwaith drwy adroddiadau rheolaidd gan Swyddog Cyfrifol yn y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Aelodaeth

Atodir aelodaeth y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Bydd cymorth polisi a chefnogaeth i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael ei ddarparu gan swyddogion yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed ac Is-adran Iechyd y Cyhoedd yn Llywodraeth Cymru.

Yn ychwanegol at yr aelodaeth graidd a nodir, estynnir gwahoddiad i unigolion eraill ddod i gyfarfodydd/gweithdai penodol yn ôl yr eitemau i'w trafod ar yr agenda, er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r profiad priodol ar gael i ganiatáu trafodaeth ar sail gwybodaeth. Bydd hynny'n bwysig, yn anad dim, er mwyn sicrhau bod swyddogion ar draws y llywodraeth ac ar draws y sectorau'n cymryd rhan.

Caiff yr aelodaeth ei hadolygu bob blwyddyn i sicrhau ei bod yn adlewyrchu safbwyntiau'r sawl sy'n berthnasol, er mwyn llunio blaenoriaethau a dylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod.

Disgwylir i'r aelodau weithredu fel rhyngwyneb rhwng y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a rhwydweithiau ledled Cymru. Bydd aelodaeth unrhyw aelodau nad ydynt yn ymgymryd â'r rôl hon, neu nad ydynt yn mynychu'r cyfarfodydd yn rheolaidd, yn cael ei therfynu yn ystod adolygiad blynyddol y Bwrdd.

Wrth gyfrannu at waith y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, gofynnir iddynt roi gwybod a ydynt yn cynrychioli safbwyntiau cyrff, asiantaethau neu grwpiau, neu a ydynt yn cynnig safbwyntiau personol eu hunain.

I sicrhau dilyniant, ni chaniateir i ddirprwyon fynychu'r cyfarfodydd ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol.

Cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau

Disgwylir i'r aelodau hysbysu'r Cadeirydd pan fydd posibilrwydd o wrthdaro buddiannau o ran eitem benodol ar yr agenda.

Yr ysgrifenyddiaeth

Darperir yr ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, gan roi cymorth rheoli gweithredol iddo i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth:

  • Yn trefnu cyfarfodydd gan ymgynghori â'r Cadeirydd ac Arweinydd y Strategaeth
  • Yn paratoi ac yn dosbarthu'r agenda, y cofnodion, a'r papurau briffio
  • Yn cydlynu’r cyswllt rhwng gweithgorau a rhanddeiliaid eraill
  • Yn paratoi briffiau, adroddiadau a gohebiaeth.

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn. Mae'n bosibl y bydd gweithdai ychwanegol yn cael eu cynnal er mwyn caniatáu trafodaeth benodol ar faterion allweddol.

Caiff cyfleusterau fideo-gynadledda a/neu glywgynadledda eu defnyddio er mwyn galluogi’r nifer mwyaf posibl o aelodau i fynychu’r cyfarfodydd, ac i leihau’r amser teithio.

Cworwm

Bydd gofyn i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl gael traean o'i aelodau allanol, a phresenoldeb y Cadeirydd, i wneud cworwm.

Adolygu

Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu’n flynyddol.

Aelodaeth

Y Grŵp a gynrychiolir Enw Swydd a sefydliad
Cadeirydd y Bwrdd Jo Jordan Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl,
Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG,
Llywodraeth Cymru
Swyddog Arweinol y Bwrdd Ainsley Bladon Arweinydd y Strategaeth Iechyd Meddwl,
Llywodraeth Cymru
Grŵp Cynghorol Uwch-nyrsys Cymru Gyfan Hazel Powell Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Grŵp Arbenigol Seicoleg Gymwysedig mewn Gofal Iechyd Jane Boyd Cyfarwyddwr clinigol,
Seicoleg a Therapïau Seicolegol,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Avril Bracey Cadeirydd y Gymdeithas
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu Jonathan Drake Prif Gwnstabl Cynorthwyol
Aelod Ofalwr Jane Treharne-Davies Gofalwr
Arweinwyr Clinigol Warren Lloyd Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt,
Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyfarwyddwyr Iechyd Meddwl Alan Lawrie Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Arweinydd Tai (allanol) I’w gadarnhau I’w gadarnhau
Iechyd Troseddwyr Rob Heaton-Jones Pennaeth y Tîm Lleihau Aildroseddu,
y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
Iechyd Cyhoeddus Cymru / 1000 o Fywydau Andrea Gray Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru,
1000 o Fywydau
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol I’w gadarnhau I’w gadarnhau
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Maria Atkins Seiciatrydd Ymgynghorol,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Defnyddiwr Gwasanaeth Julie Murray-Jones Defnyddiwr Gwasanaeth
Defnyddiwr Gwasanaeth Penny Gripper Defnyddiwr Gwasanaeth
Defnyddiwr Gwasanaeth Mandy Ware Defnyddiwr Gwasanaeth
Y Trydydd Sector (WAMH) Alun Thomas Hafal
Y Trydydd Sector (WAMH) Ewan Hilton Gofal
Y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc Sian Stewart Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl y GIG,
Arweinydd y Rhaglen
Cynrychiolydd Is-gadeiryddion Judith Hardisty Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Stewart Blythe Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Swyddogion Cynorthwyol Llywodraeth Cymru(yn ôl y gofyn)
Llywodraeth Cymru Dr Elizabeth Davies Swyddog Meddygol Uwch, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed
Llywodraeth Cymru Irfon Rees Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd
Llywodraeth Cymru Emma Williams Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai
Ysgrifenyddiaeth Swyddog dynodedig Yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed,
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
I’w gadarnhau I’w gadarnhau Addysg
Llywodraeth Cymru Sue Beacock Swyddog Nyrsio,
Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
Llywodraeth Cymru Albert Heaney Cyfarwyddwr yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol