Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Cefndir

Sefydlwyd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid (‘y Bwrdd Gweithredu’) ym mis Medi 2022. Fe’i sefydlwyd i symud ymlaen gyda’r 14 o argymhellion yn adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch hyn.  

Bydd y Bwrdd Gweithredu yn gweithio gyda phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn. Bydd yn ystyried yr argymhellion a sut i’w cyflawni yn unol â ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan (GOV.UK).

Cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredu

  • Sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yng ngwaith y Bwrdd, a gwaith unrhyw gorff newydd posibl. Gweithio gyda Chadeirydd y Grwp Cyfranogiad Gweithredu ‘Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu’ i gyflawni hyn. 
  • Sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu cyfrannu at waith y Bwrdd Gweithredu. Dylai hyn gynnwys pob sefydliad strategol allweddol yn y sector gwaith ieuenctid. 
  • Ystyried allbwn unrhyw adolygiad o ran cyllido gwaith ieuenctid. Ystyried unrhyw effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
  • Ystyried effaith unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth fel ffordd o gryfhau a chynnal gwaith ieuenctid. Yn enwedig o ran diffiniadau o waith ieuenctid, gweithiwr cymorth ieuenctid a gweithiwr ieuenctid. 
  • Cynghori ar ymchwil neu wybodaeth bellach sy’n ofynnol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith ieuenctid. Llywio gwaith y Bwrdd Gweithredu ac unrhyw gorff posibl yn y dyfodol.
  • Gan gadw’r strwythurau presennol mewn cof, ystyried trefniadau datblygu, recriwtio a chadw staff y gweithlu gwaith ieuenctid. Edrych ar strwythur gyrfa ar gyfer y gweithlu a’r gwaith o hyrwyddo’r proffesiwn gwaith ieuenctid.
  • Ystyried canlyniadau’r cynlluniau peilot iaith Gymraeg presennol. Ystyried sut y gellid defnyddio’r rhain i gryfhau a chynyddu gwasanaethau gwaith ieuenctid a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Ystyried ymhellach yr angen am gyfathrebu a marchnata clir. Dylai hyn sicrhau bod dealltwriaeth o werth ac effaith gwaith ieuenctid ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt. 
  • Cefnogi’r gwaith a wneir i weithredu argymhellion eraill y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. 

Ystyriaethau eraill ar gyfer y Bwrdd Gweithredu

  • Darparu her a chraffu adeiladol mewn perthynas â pholisïau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu a chyflawni gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae hyn hefyd yn cynnwys craffu ar draws meysydd portffolio eraill.
  • Cefnogi a chryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth a threfniadau cydweithio rhwng y sector gwaith ieuenctid statudol a’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol. Dylai hyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pobl ifanc. 

Aelodaeth

Mae gan y Bwrdd Gadeirydd annibynnol. Penodir aelodau’r Bwrdd drwy gystadleuaeth agored a theg. Mae hyn er mwyn sicrhau cymysgedd eang o sgiliau a gwybodaeth. Mae hynny’n cynnwys yr elfennau canlynol ymysg eraill:

  • datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth a gwneud defnydd effeithiol o ddata i lywio’r broses o ddatblygu strategaeth
  • materion iechyd meddwl a llesiant a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc
  • gwaith ieuenctid digidol a/neu cynhwysiant digidol
  • cyllid, adnoddau a chomisiynu
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • y Gymraeg
  • CCUHP, llais pobl ifanc a chyfranogiad

Gall aelodau ychwanegol gael eu penodi i’r Bwrdd Gweithredu yn y dyfodol. Byddai hyn er mwyn i’r afael â bylchau penodol mewn:

  • gwybodaeth
  • arbenigedd
  • profiad

Diogelu pobl ifanc

Y Cadeirydd yw’r arweinydd diogelu dynodedig ar gyfer y Bwrdd Gweithredu. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn ymddwyn yn unol â’r egwyddorion diogelu a nodir gan Diogelu Cymru.

Dull Gweithredu

Mae’r Bwrdd Gweithredu yn adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Disgwylir iddo gynrychioli barn pobl ifanc a’r sector. Bydd y farn honno’n cael ei defnyddio i fesur cynnydd yn erbyn argymhellion polisi’r Bwrdd Dros Dro. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc a’r sector, gan gynnwys drwy’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu a sefydlwyd i gefnogi a llywio’r gwaith hwn. 

Mae’r Bwrdd Gweithredu yn cydnabod bod rhaid ystyried llesiant pobl ifanc er mwyn:

  • deall gwir effeithiau’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud
  • manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd

Mae llesiant pobl ifanc yn cynnwys llesiant:

  • cymdeithasol
  • diwylliannol
  • economaidd
  • amgylcheddol

Bydd pob ystyriaeth a phenderfyniad yn edrych ar yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Mae’r egwyddor hon wedi’i hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r egwyddor yn nodi 5 ffordd o weithio. 

Bydd y Bwrdd Gweithredu yn:

  • ystyried anghenion hirdymor
  • gweithio i atal problemau rhag codi neu waethygu
  • sicrhau ei fod yn integreiddio anghenion y sector gwaith ieuenctid
  • sicrhau ei fod yn cydweithredu â phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a rhanddeiliaid ehangach ac yn ymgysylltu â hwy

Bydd y Bwrdd Gweithredu yn cyfarfod ar y cyd bob chwarter o leiaf. 

Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredu hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ehangach gyda grwpiau eraill. Mae disgwyl i’r aelodau gyfrannu isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn i waith y Bwrdd Gweithredu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol ar gyfer y cyfarfodydd. 

Byddwn yn dosbarthu’r canlynol (yn electronig):

  • papurau 5 diwrnod gwaith cyn bob cyfarfod
  • cofnodion a phwyntiau gweithredu allweddol 10 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod

Caiff agenda a phwyntiau gweithredu pob cyfarfod eu cyhoeddi ar dudalen y Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar y we

Mae’r Bwrdd Gweithredu wedi ymrwymo i’r Gymraeg. Mae’n croesawu cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru. Gall y cyfranogwyr ymuno’n bersonol neu o bell.