Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid: 8 Chwefror 2023
Agenda a chrynodeb o Cyfarfod y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid 8 Chwefror 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
- Simon Stewart (SSt)
- Shahinoor Shumon (SSh)
- Kelly Harris (KH)
- Marco Gil-Cervantes (MG)
- Sian Elen Tomos (ST)
- Deb Austin (DA)
- Cyd-gadeirydd Pwyllgor Pobl Ifanc (1)
- Cyd-gadeirydd Pwyllgor Pobl Ifanc (2)
- Catrin James (CJ) (Hwylusydd Pwyllgor Pobl Ifanc)
- Hannah Wharf (HW) Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru
- Dyfan Evans (DE), Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
- Donna Robins (DR), Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
- Kirsty Harrington (KHa), Swyddog Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
- Dareth Edwards (DaE), Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
- David Williams (DW)
- Lowri Jones (LJ)
- Joanne Sims (JS)
- Victoria Allen (VA) Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Nodwyd y gwrthdaro rhwng buddiannau a ganlyn:
- SSt yw Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam – un o’r sefydliadau addysg uwch sy’n ymwneud â’r adolygiad cyllid
- KH yn Gadeirydd Paneli Cynghori Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Cyfarfod 9-10 Tachwedd 2022: cofnodion a chamau gweithredu
Mae'r cofnodion a'r camau gweithredu o gyfarfod 9-10 Tachwedd 2022 wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Cytunodd yr aelodau i adolygu a chymeradwyo cofnodion y dyfodol dros e-bost cyn pob cyfarfod, pan fo'n bosibl, i sicrhau eu cyhoeddi’n brydlon.
Cam Gweithredu 1: Kha i anfon cofnodion i aelodau a threfnu iddynt gael eu cyhoeddi cyn cyfarfod dilynol y Bwrdd, pan fo modd
Yn dilyn y trafodaethau yng nghyfarfod mis Tachwedd, mae aelodaeth y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu bellach wedi'i sefydlu. Bydd cyfarfodydd yn dechrau cael eu cynnal yn ystod y 6 i 8 wythnos nesaf. Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau hynny sydd wedi eu henwebu eu hunain i fod yn Gadeirydd i'r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu.
Adolygiad annibynnol o'r cyllid a’r gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid: diweddariad
Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar yr adolygiad cyllid annibynnol, gan gynnwys trosolwg o dri cham yr adolygiad a'r amserlen gysylltiedig. Ochr yn ochr â'r diweddariad hwn, rhannodd swyddogion hefyd grynodeb o ddyraniadau Grant Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf, ynghyd â manylion gweithgareddau a chyllid y cytunwyd arnynt yn ymwneud ag argymhellion yr IYWB.
Darperir fersiwn wedi'i diweddaru o'r crynodeb hwn fel eitem safonol ym mhob cyfarfod i ddangos sut mae'r dyraniadau hyn yn datblygu dros amser.
Cam gweithredu 2: Gofynnwyd i'r aelodau nodi unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar y crynodeb cyllid i DR
Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad. Bydd angen i'r adolygiad bwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd a dull system gyfan. Gofynnodd yr aelodau am wahodd ymchwilydd o'r tîm adolygu cyllid i gyfarfod yn y dyfodol i esbonio'r fethodoleg a ddefnyddir ar gyfer y prosiect hwn.
Cam gweithredu 3: DR i ofyn i'r tîm prosiect adolygu cyllid ystyried y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn rhan o'r adolygiad hwn
Cam gweithredu 4: DR i wahodd ymchwilydd o'r tîm adolygu cyllid i gyfarfod yn y dyfodol
Y Pwyllgor Pobl Ifanc
Nododd swyddogion bod ymarfer caffael wedi'i gynnal yn ddiweddar i benodi sefydliad i gydlynu a rheoli gwaith y Pwyllgor Pobl Ifanc. Mae'r contract hwn wedi'i ddyfarnu i bartneriaeth sy'n cynnwys EYST, Llamau ac Urdd Gobaith Cymru.
Yn ogystal â gwerthuso'n barhaus y dulliau a ddefnyddir gan y Pwyllgor Pobl Ifanc yn ystod cyfnod y contract, rhoddir ystyriaeth hefyd i ddefnyddio dulliau eraill o ymgysylltu â phobl ifanc i feithrin dealltwriaeth o’r arferion gorau yn y maes hwn.
Rhannodd cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Pobl Ifanc sut y byddant yn ymgysylltu ag aelodau'r pwyllgor yn ogystal â'r Bwrdd, gan nodi eu nod i roi adborth i'r Bwrdd ym mhob cyfarfod ar drafodaethau diweddar y pwyllgor. Awgrymodd yr aelodau y byddai'n fuddiol i'r cyd-gadeiryddion ymuno â'r Grŵp Cyfranogiad Gweithredu 'Mae pobl ifanc yn ffynnu’.
Cam gweithredu 5: KH fel Cadeirydd y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu 'Mae pobl ifanc yn ffynnu' i wahodd y cyd-gadeiryddion i ymuno â'r grŵp hwnnw
Atgyfnerthu sail ddeddfwriaethol newydd ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru neu sefydlu un newydd: ystyriaethau polisi a meysydd i'w hystyried ymhellach
Cyflwynodd swyddogion bapur yn seiliedig ar y gwaith a wnaed hyd yma i ystyried ymhellach faterion sy'n ymwneud ag atgyfnerthu’r sail ddeddfwriaethol bresennol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Er mwyn i'r gwaith symud ymlaen yn effeithiol, nododd yr aelodau bwysigrwydd cyfathrebu clir gyda'r sector a rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â chasglu gwybodaeth a safbwyntiau aelodau’r Grŵp Cyfranogiad Gweithredu a'r sector yn ehangach.
Roedd yr aelodau yn cydnabod cymhlethdod llawer o'r materion sy'n ymwneud â deddfwriaeth. I gefnogi'r gwaith hwn awgrymodd yr aelodau sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen. Bydd y grŵp yn bwrw ymlaen â'r materion hyn cyn iddynt gael eu trafod yng nghyfarfod dilyn y Bwrdd. Cytunodd yr aelodau i hysbysu SL pe baent am ymuno â'r grŵp gorchwyl a gorffen.
Cam gweithredu 6: Aelodau i anfon eu datganiadau o ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp gorchwyl a gorffen deddfwriaeth i SL. SL i weithio gyda swyddogion i sefydlu'r grŵp hwn
Marchnata a Chyfathrebu
Rhoddodd y swyddogion ddiweddariad ar y dull arfaethedig o farchnata a chyfathrebu am y flwyddyn i ddod.
Bydd cynllun lefel uchel sy'n defnyddio methodoleg OASIS yn cael ei ddatblygu gan CWVYS mewn partneriaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ysgogi gan amcanion allweddol. Bydd y Grŵp Marchnata a Chyfathrebu dan arweiniad y sector yn chwarae rhan ganolog o ran llunio'r cynllun gwaith manwl.
Cam gweithredu 7: Swyddogion i rannu unrhyw ddyddiadau digwyddiadau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod gyda'r Bwrdd cyn gynted â phosibl
Unrhyw Fater Arall
Rhoddodd MG wybod i'r Bwrdd a’r swyddogion am gyfleoedd sydd ar y gweill i gysylltu â phartneriaid rhyngwladol i gyfnewid yr arferion gorau o ran gwybodaeth ieuenctid a meysydd cysylltiedig eraill.
Cam gweithredu 8: MG i roi manylion i swyddogion o gyfleoedd sydd i ddod ar gyfer ymgysylltu â chydweithwyr rhyngwladol
Cytunodd yr aelodau fod lle i archwilio cyfleoedd pellach i ddysgu gan bartneriaid, rhwydweithiau a Byrddau eraill dramor. Awgrymwyd y byddai’r Dr Howard Williamson yn gyswllt defnyddiol yn y cyd-destun hwn.
Cam gweithredu 9: DE i gysylltu â’r Dr Howard Williamson i gael cyngor pellach
Nododd swyddogion y bydd canllawiau pellach yn cael eu darparu i aelodau ynglŷn â hawlio am amser a dreulir ar weithgareddau y tu hwnt i bresenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd (pan fo hynny'n berthnasol).
Cam Gweithredu 10: DE i rannu canllawiau ag aelodau'r Bwrdd ar weithgareddau cymwys
Cynigiodd swyddogion fod dyddiadau'n cael eu nodi a'u rhannu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd am weddill 2023, gan ystyried argaeledd cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Pobl Ifanc.