Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Simon Stewart (SSt)
  • David Williams (DW)
  • Joanne Sims (JS)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Marco Gil-Cervantes (MG)
  • Deb Austin (DA)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KHa)
  • Umaira Chaudhary, Swyddog Gwybodaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (UC)
  • Gethin Jones, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (GJ)
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr (TK)

Ymddiheuriadau

  • Shahinoor Alom (SA)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)

Gwrthdaro Buddiannau

Dim wedi ei ddatgan.

Cyfarfod 15 Mehefin 2023: cofnodion a phwyntiau gweithredu

Adolygwyd y cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023.

Nododd SL mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd i gael ei gynnal ers ymddiswyddiad Kelly Harris. Diolchodd aelodau'r Bwrdd a swyddogion i Kelly am ei chyfraniad amhrisiadwy i waith y Bwrdd. Cadeirydd newydd Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Pobl Ifanc yn Ffynnu yw David Williams.

Cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid

Rhoddodd DaE a GJ grynodeb o'r gwaith a wnaed hyd yma gyda chefnogaeth grŵp gorchwyl a gorffen deddfwriaeth y Bwrdd, ac amlinellwyd y camau nesaf sydd yn yr arfaeth ac sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

Hefyd, darparwyd trosolwg o'r ffordd y bydd y sector a rhanddeiliaid ehangach yn cael eu cynnwys.

Cam Gweithredu 1: DaE i rannu'r cyflwyniad ar y cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid gydag aelodau'r Bwrdd.

Cynllun Gweithredu

Rhoddodd VA a DE ddiweddariad ar y Cynllun Gweithredu. Bydd yn gweithredu fel map ffordd ar gyfer y sector a rhanddeiliaid ehangach, gan nodi camau allweddol ar gyfer datblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro hyd at hydref 2024. Mae'r cynllun yn tynnu ar gynnwys cynlluniau gwaith manylach a ddatblygwyd gan bob un o bum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Thematig y Bwrdd.

Trafododd aelodau'r Bwrdd gynigion ar gyfer datblygu argymhelliad y Bwrdd Dros Dro ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan bwysleisio pwysigrwydd tynnu ar arbenigedd yr ystod eang o sefydliadau sydd eisoes yn weithredol yn y maes hwn a chlywed tystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifanc am y rhwystrau rhag cael mynediad at waith ieuenctid.

Cam Gweithredu 2: DE i ddosbarthu crynodeb o weithgareddau a gyflawnwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol i gryfhau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu gwasanaethau i aelodau'r Bwrdd Bydd manylion hefyd yn cael eu rhannu am gynlluniau cydraddoldeb ac amrywiaeth ehangach awdurdodau lleol.

Trafododd aelodau'r Bwrdd bwysigrwydd defnyddio rhwydweithiau presennol mewn cynlluniau yn y dyfodol i ymgysylltu â phobl ifanc. Adroddodd DW fod hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r Grŵp 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu', gyda gwaith ar fin digwydd i fapio strwythurau presennol ledled Cymru.

Cyfeiriodd yr Aelodau at bwysigrwydd cyfarfod â phobl ifanc yn eu mannau eu hunain, er enghraifft ar-lein neu drwy brosiectau allgymorth, er mwyn sicrhau bod ystod amrywiol o leisiau'n cael eu clywed. Dywedwyd hefyd ei bod yn dal yn bwysig parhau i fanteisio ar arbenigedd ar draws y sector i gyrraedd pobl ifanc.

Cyfeiriodd DE at y cynlluniau peilot cyfranogiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd fel ffordd o brofi effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o ymgysylltu â phobl ifanc.

Cam Gweithredu 3: VA i rannu crynodeb o'r cynnydd a wnaed hyd yma ar y prosiectau peilot hyn, yn ogystal â thystiolaeth berthnasol arall a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru oddi wrth bobl ifanc, gydag aelodau'r Bwrdd.

Cyllidebau

Rhoddodd DE ddiweddariad ar ddyraniadau'r gyllideb a gwahoddodd y bwrdd i gysylltu ag ef gydag unrhyw gwestiynau.

Ymchwil a thystiolaeth

Rhannodd SSt fanylion modelau atal sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddir mewn mannau eraill yn rhyngwladol, a sut y gellid mabwysiadu dull tebyg yng Nghymru.

Cam Gweithredu 4: SSt i rannu rhagor o fanylion gyda swyddogion ac aelodau'r Bwrdd. Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd i anfon sylwadau'n uniongyrchol at SSt.

Amserlen y gweminarau

Rhannwyd amserlen ddrafft ar gyfer gweminarau arfaethedig y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu gyda'r Bwrdd. Bydd pum gweminar yn cael eu cynnal yn rhithiol rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mehefin 2024.

Cam Gweithredu 5: Cadeiryddion y Grwpiau i weithio gyda swyddogion i gadarnhau dyddiadau, cynnwys a chynulleidfa ar gyfer pob un o'r gweminarau.

Fframwaith Arloesi

Rhannwyd crynodeb o'r ddwy ffrwd waith i gefnogi arloesedd o fewn gwaith ieuenctid yng Nghymru gyda'r Bwrdd; Fframwaith arolygu annibynnol arfaethedig Estyn ar gyfer Gwaith Ieuenctid a'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Cam Gweithredu 6: DR i weithio gydag Estyn a CGA i ddatblygu amlinelliad o'r aliniad rhwng y Marc Ansawdd a Fframwaith Arolygu Estyn. 

Unrhyw Fater Arall

Nododd DE fod yr adroddiad ar gam cyntaf yr adolygiad ariannu annibynnol wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2023. Bydd ail gam y gwaith yn ehangu'r astudiaeth i bob rhan o Gymru, tra bydd y trydydd cam yn anelu at ddatblygu Dadansoddiad o Gostau a Manteision gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Trafododd aelodau'r Bwrdd y posibilrwydd o rannu yr hyn a ddysgwyd yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn eu rôl yn cefnogi'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid fel rhan o'u diweddariadau i'r sector. Roedd aelodau'r Bwrdd hefyd yn awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill - gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a Chomisiynydd y Gymraeg - yn ystod cam nesaf y gwaith hwn i helpu i sicrhau bod trafodaethau mor effeithiol â phosibl.

Cam Gweithredu 7: SL i wahodd Comisiynydd Plant Cymru neu gynrychiolydd o'i swyddfa i gyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 30 Tachwedd 2023