Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o gwmpas a phwrpas bwrdd gweinidogol Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS).

Cefndir

Yn 2018, gwnaeth adolygiad academaidd gan yr Athro Amanda Robinson o Brifysgol Caerdydd ac adolygiad ymarferwyr Llywodraeth Cymru gan Liane James ar:

  • Adolygiadau Lladdiadau Domestig
  • Adolygiadau Ymarfer Oedolion
  • Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl
  • Adolygiadau Ymarfer Plant

O ganlyniad, gwnaed argymhellion ynghylch:

  • deddfwriaeth
  • llywodraethiant
  • polisi
  • proses
  • storfa ganolog
  • llyfrgell genedlaethol
  • dysgu a hyfforddi

Tynnodd y ddau adolygiad sylw at yr angen i wella prosesau cydgysylltu, cydweithio, cyfathrebu a llywodraethu wrth gynnal adolygiadau diogelu yng Nghymru. Fe wnaeth y gwaith ddatgelu cymhlethdod sefyllfa lle’r oedd cyrff datganoledig ac annatganoledig yn cynnal adolygiadau ar wahân ac, mewn rhai achosion, heb yn wybod i Lywodraeth Cymru a heb ei chyfraniad, gan greu tirwedd adolygu anhrefnus yng Nghymru.

Cafodd yr argymhellion eu gwneud a'u derbyn gan weinidogion Cymru i gael proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) gydag un corff yn darparu tefn lywodraethu cyffredinol wedi'i chysylltu â storfa ganolog i hwyluso dysgu a hyfforddi ar lefel Cymru gyfan. Yn ategu hyn roedd yr angen am broses a allai uwchgyfeirio materion eithriadol, gan gynnwys newidiadau posibl i bolisi neu faterion sy'n cynnwys swyddogaethau datganoledig a heb eu datganoli, ar lefel ryng-weinidogol i ddylanwadu ar y broses unigryw hon a’r canlyniadau, eu cefnogi a’u harwain.

Diben

Y bwrdd yw'r corff cyffredinol sy'n dwyn ynghyd yr agweddau datganoledig a heb eu datganoli ar ddiogelu o dan un model llywodraethu. Nodir pwrpas y bwrdd mewn 4 maes isod.

Arwain

O fewn maes arweinyddiaeth, pwrpas y bwrdd yw:

  • darparu fforwm cenedlaethol er mwyn helpu i atal digwyddiadau a rheoli adolygiadau diogelu yng Nghymru a dysgu ohonynt
  • annog y gwaith o ddatblygu a gweithredu dull cyson ledled Cymru gyda phartneriaid allweddol
  • ystyried unrhyw newidiadau posibl y gall fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu gwneud o ran cyfrifoldebau statudol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau neu ddyrannu adnoddau, o ganlyniad i gynlluniau gweithredu ac argymhellion a ddaw i'r amlwg o ADUS

Proses

O fewn y maes prosesu, pwrpas y bwrdd yw:

  • goruchwylio'n strategol nifer yr adolygiadau diogelu cyfredol (gan gynnwys Adolygiadau Lladdiadau Domestig) a'r materion a’r patrymau cenedlaethol a'r themâu dysgu cyffredin sy'n dod i'r amlwg lle mae angen ymateb Cymru gyfan neu'r DU gyfan
  • sicrhau bod ffocws ar ddysgu gan yr asiantaethau priodol ac ar ganlyniadau o adolygiadau wedi’u cwblhau, a bod mecanweithiau ar waith i gyflawni yn erbyn y canlyniadau hynny
  • derbyn a gweithredu ar faterion a uwchgyfeirir o ranbarthau na ellir eu datrys ar y lefel honno ac sydd angen ymateb ar lefel Cymru gyfan neu'r DU gyfan, gan gynnwys newidiadau posibl i bolisïau a deddfwriaethau cyfredol

Cadw a chynhyrchu gwybodaeth 

O fewn y maes o gadw a chynhyrchu gwybodaeth, pwrpas y bwrdd yw:

  • derbyn themâu allweddol a nodwyd gan storfa ddiogelu Cymru a'r dysgu a nodwyd
  • derbyn adroddiadau monitro ar y ffordd y mae'r dysgu sy'n deillio o'r wybodaeth a gafwyd o'r storfa yn cael ei roi ar waith

Cyfleoedd dysgu ehangach

Ym maes cyfleoedd dysgu ehangach, pwrpas y bwrdd yw:

  • annog y gwaith o archwilio cyfleoedd diogelu o safbwynt rhyngwladol a nodi a rhannu arfer gorau

Aelodaeth

Mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys:

  • Prif Weinidog (cadeirydd)
  • Y Gweinidog Newid Hinsawdd (gan gynnwys Tai)
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
  • Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • gweinidogion fel y bo'n briodol ar gyfer materion perthnasol
  • cyfarwyddwyr cyffredinol fel y bo'n briodol ar gyfer materion perthnasol
  • cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • cadeirydd bwrdd diogelu
  • cadeirydd y Grŵp Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru
  • arweinydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru ar ADUS
  • cadeirydd grŵp strategaeth ADUS
  • uwch gynrychiolydd o'r Storfa Ddiogelu Cymru
  • Prif Gwnstabl sy’n gadeirydd bwrdd plismona Cymru gyfan
  • Prif Weithredwr GIG Cymru
  • cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru 
  • Prif Weithredwr BAWSO (Black association of women step out)
  • cynrychiolydd grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ADUS
  • cynrychiolydd pennaeth bwrdd cymunedau mwy diogel Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr
  • cynrychiolydd y trydydd sector

Bydd y rhestr o wahoddiadau sefydlog (i dderbyn copi o holl ohebiaeth bwrdd gweinidogol ADUS) yn cynnwys:

  • uwch gynrychiolydd y Swyddfa Gartref
  • uwch Grwner (barnwr arweinyddiaeth Cymru)
  • Prif Erlynydd y Goron Cymru
  • Arweinydd a Phrif Weithredwr CLlLC (fel sy'n briodol ar gyfer eitemau agenda penodol)

Ysgrifenyddiaeth

Bydd cymorth ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru.

Mynychder cyfarfodydd ac amserlenni

Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd bob 6 mis a byddant yn cael eu cynnal o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams neu yn y cnawd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â lleoliadau eraill ledled Cymru yn ôl y gofyn. Dylid cyflwyno eitemau agenda heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn pob cyfarfod, a dylid caniatáu cyflwyno materion brys yn ddiweddarach.

Rheoli fersiynau

FersiwnStatwsEnw
1Drafft cychwynnolSarah Lamberton
2Diwygiadau wedi'u rhannu a'u dilysu gan y bwrdd (15 Mawrth 2024)Sarah Lamberton