Simon Stewart Aelod
Roedd Simon Stewart yn aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
Mae Simon yn weithiwr ieuenctid profiadol, darlithydd ac arweinydd ac ar hyn o bryd mae’n Ddeon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Cyn gweithio ym maes addysg uwch, roedd Simon yn rheoli elusen gwaith ieuenctid yn y sector gwirfoddol yng Ngogledd Iwerddon gan fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan drawma ar ôl y bomio yn Omagh. Hefyd, bu Simon yn gweithio ar lefel genedlaethol i glybiau Bechgyn a Merched yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys gwasanaeth cysylltiadau Glannau Merswy, Gwasanaeth Ieuenctid St Helens a chyn hynny bu’n arwain y fasnachfraint ieuenctid ar gyfer Prifysgol Glyndŵr ledled Cymru. Mae Simon wedi bod yn arbenigwr allanol i raglen Youth in Action y Cyngor Prydeinig ac wedi gweithio’n rhyngwladol. Mae’n aelod o Connect Cymru ac yn cefnogi’r sector gwaith ieuenctid ac yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc. Gydag entrepreneuriaeth yn llifo drwy ei wythiennau, sefydlodd a chyfarwyddodd Simon fenter gymdeithasol lwyddiannus ym maes addysg a thechnoleg anffurfiol cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Ar hyn o bryd mae Simon yn cwblhau doethuriaeth ar Waith Ieuenctid Rhyngwladol a Dysgu Rhyngddiwylliannol, gan ddefnyddio dull dadansoddi perthynol sy’n canolbwyntio ar leisiau pobl. Ar ôl ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008, arweiniodd Simon y rhaglenni gwaith ieuenctid BA ac MA a datblygodd raglen BA penwythnos rhan-amser ar gyfer y maes ymarfer cyn symud i’w swydd bresennol.