Efa Gruffudd Jones Aelod
![Ffotograff o Efa Gruffudd Jones](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/Efa%20-Photo2_1.jpg?itok=wXEtLaSa)
Roedd Efa Gruffudd Jones yn aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
Yn dilyn swyddi gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru yn 2000 ymunodd Efa ag Urdd Gobaith Cymru, prif fudiad ieuenctid Cymru fel Cyfarwyddwr Datblygu. Roedd yn gyfrifol am godi arian o bob math o ffynonellau ac am ddatblygu polisi.
Yn 2004, fe ddaeth yn Brif Weithredwr i’r Urdd. Dyblodd nifer staff a throsiant yr Urdd yn ystod ei chyfnod fel Prif Weithredwr.
Ers 2016 mae Efa yn Brif Weithredwr i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef y corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad strategol i’r maes dysgu Cymraeg i Oedolion yng Nghymru. Mae’r Ganolfan wedi datblygu cwricwlwm ac adnoddau newydd i’r maes ac wedi sefydlu prosiectau arloesol, gan gynnwys y Cynllun ‘Cymraeg Gwaith’.
Mae Efa wedi bod yn yn Is-Gadeirydd CWVYS, yn ymddiriedolwr o’r WCVA ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Efa yw Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.