Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Dusty Kennedy

Roedd Dusty Kennedy yn aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Mae Dusty yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Ymgynghori yn Academi TRM, ac yn Gymrawd Ymweld yng Nghyfadran Busnes a Chymdeithas Prifysgol De Cymru. Ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, mae’n arwain ar Waith Ieuenctid Digidol.

Mae gan Dusty brofiad 19 mlynedd o weithio yn y system cyfiawnder ieuenctid; yn gyntaf fel mentor gwirfoddol ac, yn fwyaf diweddar, am 6 mlynedd fel Cyfarwyddwr y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Bu’n gyfrifol am arolygu timau troseddwyr ifanc yn genedlaethol, contractau a chomisiynu ystâd ddiogel plant, cysylltiadau â’r llywodraeth a datblygu arferion arloesol; gan gynnwys prosiect ECM i brofi TRM mewn perthynas â thimau troseddwyr ifanc.

Cyn hyn treuliodd dair blynedd fel Pennaeth Strategaeth Cyfiawnder Ieuenctid Llywodraeth Cymru; gan ddefnyddio profiad a gafodd wrth ymarfer ac fel uwch reolwr ar lefel llunio polisïau cenedlaethol.

Yn fwyaf diweddar, gweithiodd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan arwain ar elfen carchardai a phrawf Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd; rhaglen gydweithredol ar lefel Cymru gyfan i sefydlu arferion sy’n seiliedig ar wybodaeth am drawma o fewn systemau plismona a chyfiawnder troseddol.