Cylch gorchwyl am y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Cefndir a chylch gwaith

Sefydlwyd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim ym mis Hydref 2018 yn dilyn ymrwymiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ym mis Mawrth 2018. Bydd y Bwrdd yn cynrychioli pobl ifanc a’r sector ac yn darparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru.

Mae cylch gwaith y Bwrdd yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • Gynghori ar ddatblygu, gweithredu a monitro’r strategaeth gwaith ieuenctid newydd i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt.
  • Cynghori ar weithredu argymhellion mewn perthynas â ‘chiplun’ y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Ymchwiliad i Waith Ieuenctid (Gorffennaf 2016), ac adolygiadau a gwerthusiadau eraill fel y bo’n briodol.
  • Cefnogi a chryfhau gwaith partneriaeth rhwng y sector statudol a gwirfoddol.
  • Goruchwylio digonolrwydd gwasanaethau ym mhob awdurdod lleol, gan gynnwys darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cynghori ar briodoldeb a dosbarthiad parhaus grantiau i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen
  • Ystyried y Polisi Ewropeaidd ynghylch gwaith ieuenctid, yn arbennig mewn perthynas ag Erasmus+
  • Comisiynu ymchwil i waith ieuenctid yng Nghymru.
  • Darparu cyngor strategol clir i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
  • Darparu her a chraffu adeiladol mewn perthynas â pholisïau a chynigion y broses o ddarparu a chyflawni gwasanaethau gwaith ieuenctid gan sicrhau bod pobl ifanc yn ganolog i’r cyngor/penderfyniadau.

Mae’r Bwrdd yn interim ei natur gan mai rhan o’i rôl fydd sefydlu a oes angen Corff Cenedlaethol, neu sefydliad arall o’r fath, i ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru a bydd yn gwneud ei argymhellion ar ôl dwy flynedd.

Aelodaeth

Mae gan y Bwrdd Gadeirydd annibynnol. Penodir aelodau’r Bwrdd drwy gystadleuaeth agored a theg i sicrhau cymysgedd eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • Datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth a gwneud defnydd effeithiol o ddata i lywio’r broses o ddatblygu strategaeth
  • Materion Iechyd Meddwl a Lles a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc
  • Gwaith ieuenctid digidol a/neu cynhwysiant digidol
  • Cyllid, Adnoddau a Chomisiynu
  • Anabledd ac Amrywiaeth
  • Yr iaith Gymraeg
  • CCUHP, Llais Pobl Ifanc a Chyfranogiad

Dull Gweithredu

Mae’r Bwrdd yn adrodd i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Disgwylir iddynt gynrychioli barn pobl ifanc a’r sector hefyd wrth lunio cyngor neu argymhellion o ran polisi. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc a’r sector, gan gynnwys drwy’r Grŵp Rhanddeiliaid Gwaith Ieuenctid.

Mae’r Bwrdd yn cydnabod bod angen iddynt ystyried llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol pobl ifanc yng Nghymru er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a deall gwir effeithiau’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud. Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hymgorffori yn eu proses o wneud penderfyniadau a’u hystyriaethau yn hyn o beth.

Mae’r egwyddor yn nodi pum ffordd o weithio, y bydd y Bwrdd yn eu cymhwyso i’r broses o wneud penderfyniadau, gan olygu eu bod yn ystyried anghenion hirdymor, yn gweithio i atal problemau rhag codi neu waethygu, yn sicrhau eu bod yn integreiddio anghenion y sector gwaith ieuenctid a’u bod yn cydweithredu â phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a rhanddeiliaid ehangach ac yn ymgysylltu â hwy.

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ar y cyd yn chwarterol neu’n amlach, gyda’r disgwyliad i bob aelod o’r Bwrdd gyfrannu isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn i waith ehangach y Bwrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol ar gyfer y cyfarfodydd. Caiff papurau’r Bwrdd eu dosbarthu’n electronig bum diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Bwrdd, a chaiff y cofnodion eu dosbarthu i’r aelodau 10 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod, ynghyd â’r pwyntiau gweithredu allweddol. Caiff agenda’r cyfarfod a’r Pwyntiau gweithredu eu cyhoeddi drwy ei dudalennau ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru.