Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn cynrychioli pobl ifanc a'r sector gwaith ieuenctid, ac yn rhoi cyngor i weinidogion.

Ein rôl yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaeth gwaith ieuenctid newydd, gan ddefnyddio:

  • safbwyntiau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid proffesiynol
  • tystiolaeth sy'n dangos beth sy'n gweithio

Bwrdd dros dro ydym a fydd yn para am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi a gweithredu model gwaith ieuenctid yn y dyfodol.