Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi penodi 2 Aelod newydd i Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol. Gan ddechrau ar 1 Mehefin 2023, cyfnod y penodiadau hyn fydd 3 blynedd.
Cafodd Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol ei sefydlu’n wreiddiol yn unol â Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 ac mae’n rhoi cyngor i Weinidog yr Economi ar faterion sy’n ymwneud ag Economi Cymru. Mae hefyd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru yn ei huchelgais i sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ledled rhanbarthau Cymru a hynny drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith y Bwrdd yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy’n ymgeisio am gymorth gwerth dros £1 filiwn o’r cynlluniau perthnasol sy’n dod o dan Gronfa Dyfodol yr Economi.
Yr Aelodau Bwrdd sydd newydd eu penodi yw:
- Trefor Owen
- Owen Derbyshire
Bydd y 2 Aelod o’r Bwrdd sydd newydd eu penodi yn ymuno â’r 5 Aelod presennol o’r Bwrdd a gafodd eu hailbenodi am gyfnod arall o 3 blynedd ym mis Tachwedd 2022. Bydd Michael Macphail, Cadeirydd y Bwrdd a gafodd ei ailbenodi am gyfnod arall o 3 blynedd ym mis Gorffennaf 2022 yn arwain ar drafodion cyfarfodydd y Bwrdd. Bydd hefyd yn helpu ei gyd-aelodau ar y Bwrdd i ddod i gytundeb i sicrhau bod argymhellion addas yn cael eu rhannu â’r Gweinidog.
Ar hyn o bryd, cynigir tâl cydnabyddiaeth o £198 y dydd i bob Aelod o’r Bwrdd am ymrwymiad o un diwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd yn fisol.
Mae’r penodiadau wedi’u gwneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus. Caiff pob penodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.
Nid yw’r Aelodau wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae Trefor Owen yn gwasanaethu yn Gadeirydd Panel Apelio Annibynnol Taliadau Gwledig Llywodraeth Cymru.
Yr Aelodau o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol sydd newydd eu penodi:
Mae Trefor Owen yn gyn-gyfarwyddwr Rheoli Tir gyda phrofiad yn y DU ac Ewrop o reoli tir ar raddfa fawr, ac addasu a phontio o ran materion hinsawdd. Cyn hynny, roedd yn gyfrifol am ofal hirdymor a rheolaeth gynaliadwy o 650,000 o hectarau o goedwigoedd a thir cenedlaethol yr Alban. Mae’n eiriolwr cryf dros ddefnyddio adnoddau cynaliadwy, rheoli tir mewn modd aml-ddimensiwn yn ogystal â datblygu’r fioeconomi ymhellach.
Mae Owen Derbyshire yn Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yr elusen sy’n gweithio tuag at wella a diogelu amgylchedd Cymru er budd cenedlaethau’r dyfodol. Gweithiodd cyn hynny i S4C, y darlledwr Cymraeg, yn Gyfarwyddwr Digidol a Marchnata. Cyn hynny, gweithiodd i nifer o fusnesau technoleg ar draws ystod eang o sectorau. Mae ganddo hefyd brofiad Anweithredol a hynny yn sgil gwasanaethu ar fyrddau S4C, Shelter