Mae busnesau yng Nghymru yn colli'r cyfle i fanteisio ar sgiliau pobl fedrus drwy beidio â chynnig digon o gyfleoedd gwaith i bobl anabl.
Rhoddodd y Gweinidog wybod iddynt am Nath o Rondda Cynon Taf, sydd ar y sbectrwm awtistig ac wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger. Mae Nath wedi cael hyd i waith sy'n addas ar gyfer eu sgiliau drwy gymorth gan raglen Cymunedau am Waith Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i hariannu gan yr UE. Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gallu cyfieithu dogfennau'n weddol rhwydd, ond mae'n ei chael hi'n anodd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Roedd ei gynghorydd ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith wedi ei helpu i fynd am swydd fel Cyfieithydd, ac ar ôl rhywfaint o gydweithrediad dwys, fe lwyddodd i gael swydd yn gweithio i'r Autism Directory Society.
Gyda chymorth y gymdeithas a'i gynghorydd, fe gafodd cymorth ariannol gan raglen Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ychwanegol at hynny, mae'n cael cymorth gan Hyfforddwr Mynediad i Waith am dair blynedd, sy'n ei helpu i aros yn y swydd. O ganlyniad i'r cymorth hanfodol y mae'n ei gael drwy raglen Mynediad i Waith, mae'n ceisio defnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau ac yn cadw'n gadarnhaol. Mae hynny'n ei helpu i oresgyn y rhwystredigaeth y mae'n ei chael wrth gyfathrebu'n gymdeithasol.
Wrth annerch cyfarfod Lansio Fforwm Polisi Cyhoeddus y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, dywedodd y Gweinidog:
“Does dim digon o bobl anabl mewn swyddi. Mae ffigurau a gafodd eu rhyddhau dim ond yr wythnos diwethaf yn dangos mai 9.2% yw'r gyfran o bobl anabl ym Mhrydain Fawr sy'n gallu gweithio ond sy'n ddi-waith – sy’n fwy na dwywaith cyfran y rhai hynny nad ydyn nhw'n anabl, sef 3.6% ar hyn o bryd.
“Yn y cyfamser, yng Nghymru, dim ond 45% o bobl anabl mewn oedran i weithio sy'n gweithio ar hyn o bryd, o'i gymharu â 79% o'r rhai hynny nad ydynt yn anabl. Dyw hynny ddim yn dderbyniol. Rwy am i hyn newid, ac mae angen eich help chi arna' i gyflawni hynny.
“Ac nid proses hollol anhunanol yw hon. Os nad ydych chi'n cyflogi croestoriad eang o'r gymdeithas, rydych chi'n colli cyfle i fanteisio ar botensial sydd heb ei wireddu o'n gweithlu medrus.”
Yn gynharach eleni cafodd Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ei lansio. Mae'r cynllun yn cydnabod bod rhai pobl yn wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael swydd.
Un o brif gamau gweithredu'r cynllun yw darparu dull unigolyddol o fynd ati i gynnig cymorth i hybu cyflogadwyedd sy'n ymateb i anghenion unigolion ac yn ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, ymagweddau ac uchelgeisiau. Mae sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl anabl allu dod o hyd i waith ac aros yn y gwaith yn elfen allweddol o'r dull hwnnw. Mae'r cynllun yn galw ar fusnesau i fynd i'r afael â'r rhwystrau rhag cael swydd drwy addasu swydd-ddisgrifiadau a defnyddio prosesau recriwtio arloesol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Dydyn ni ddim yn disgwyl ichi wneud hynny heb gyngor a chymorth. Ond, mae mwy i gyflogadwyedd na swyddi a sgiliau. Mae'n golygu ein bod ni'n sicrhau bod pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn gweithio ar y cyd i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy. Ond, all y Llywodraeth ddim, a ddylai hi ddim, wneud hynny ar ei phen ei hunan. Rhaid inni gael cefnogaeth cyflogwyr, busnesau a gweithwyr proffesiynol fel chi i'n helpu ni.”