Neidio i'r prif gynnwy

Caiff cwmnïau o Gymru bob cyfle i elwa ar drydedd rhedfa Heathrow, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y cynhelir yr ail gynhadledd Gymreig i fusnesau Heathrow flwyddyn nesaf i wneud yn siŵr bod cwmnïau o Gymru mewn sefyllfa dda i ennill contractau sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r rhedfa newydd. 

 

Ac y mae wedi croesawu'r newyddion hefyd bod y saith safle y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hyrwyddo yng Nghaerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glynebwy a Phen-y-bont ar Ogwr yn dal i fod yn y gystadleuaeth i fod yn un o’r canolfannau logistig ar gyfer Heathrow. 

 

Wedi'u dewis, y pedair canolfan fydd y safleoedd lle caiff y seilwaith ar gyfer trydedd rhedfa Heathrow eu hadeiladu. Disgwylir i bob canolfan greu nifer fawr o swyddi gan roi hwb economaidd aruthrol i'w hardal. 

 

Mae'r planiau hyn ar gyfer canolfannau logistig yn rhan o ymrwymiad ehangach Heathrow i ddefnyddio'r rhaglen ehangu i chwyldroi'r ffordd y mae'r DU yn adeiladu prosiectau seilwaith mawr ac i ledaenu buddiannau economaidd y prosiect i bob rhan o wledydd Prydain. 

 

Rhaglen ehangu Heathrow fydd y prosiect seilwaith mawr cyntaf i arloesi â chanolfannau logistig i rannu'r buddiannau economaidd. 

 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

 

"Mae trydedd rhedfa Heathrow yn cynnig cyfleoedd economaidd aruthrol i fusnesau ledled y DU ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod cwmnïau o Gymru'n cael yr holl help a chefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i fod ym merw'r datblygiad pwysig hwn. 

 

"Â hyn mewn golwg, mae'n dda gen i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru am gynnal yr ail gynhadledd i fusnesau Heathrow yng Nghymru. Y bwriad fydd dod â chyflenwyr mawr a busnesau bach ynghyd i'w helpu i ennill rhai contractau sy'n gysylltiedig â'r rhedfa newydd. 

 

"Mae'n neilltuol o dda gweld bod saith o'r safleoedd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn y gystadleuaeth o hyd i fod yn un o bedair canolfan logistig Heathrow. 

"Byddai llwyddo i ddenu un o'r canolfannau hyn i Gymru yn dipyn o gamp oherwydd y buddiannau economaidd anferth a ddaw yn ei sgil, a bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth y gall y tu ôl i'r llenni i hyrwyddo'r safleoedd Cymreig." 

Dywedodd yr Arglwydd Deighton, Cadeirydd Heathrow: 

"Bydd trydedd rhedfa Heathrow'n dibynnu ar dalentau o bob rhan o Brydain i'w helpu i greu ased cenedlaethol fydd yn para am genedlaethau. Bydd yn golygu cyfleoedd caffael newydd i fusnesau ym mhob rhanbarth a gwlad i sbarduno twf a buddsoddi mewn cymunedau lleol ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig. 

 

"Nid Llundain fydd canolbwynt prosiect y drydedd rhedfa - rydym am gynnig cyfleoedd i'r Deyrnas Unedig yn gyfan, gan ofyn am sgiliau ac arbenigeddau i adeiladu ased y mae angen mawr amdano i sicrhau'n ffyniant ar gyfer y dyfodol." 

 

Caiff Cynhadledd Busnesau Heathrow Cymru ei chynnal yng Nghaerdydd ar 11 Gorffennaf 2018. Bydd yn sicrhau bod busnesau ledled Cymru'n cael dysgu am y cyfleoedd a fydd ar gael iddyn nhw pan fydd y gwaith ar adeiladu'r rhedfa'n dechrau. Digwyddiad ar y cyd fydd hwn, rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Heathrow, a threfnir apwyntiadau tebyg i rai gwib-ddetio rhwng busnesau bach  a chanolig a chyflenwyr mwyaf Heathrow.