Neidio i'r prif gynnwy

Mae entrepreneuriaid oedran ysgol ym Mhowys yn troi eu syniadau da’n fusnesau sy’n ffynnu

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae busnesau’r farchnad yn cynnwys lle gwerthu popgorn a chrempogau Ffrengig, gwasanaeth garddio, bagiau anrheg wedi eu gweu â llaw, eitemau i fabanod a phlant wedi eu gwnïo gartref, tra bod un disgybl ysgol yn ei harddegau yn rhedeg grŵp o gwmnïau sy’n amrywio o werthu cacennau a bisgedi wedi’u pobi gartref i ddisgos symudol.

Mae’r Farchnad Ieuenctid - sy’n cynnig stondinau am ddim, cyngor a chefnogaeth - wedi bod yn gatalydd wrth annog entrepreneuriaid ifanc i wireddu eu breuddwydion, a naill ai’n annog pobl ifanc i lansio busnes, neu i ddatblygu busnes sy’n bodoli eisoes.

Ers i’r farchnad ddechrau ym mis Medi llynedd i gyd-fynd ag ymgyrch Cefnogwch eich Stryd Fawr, mae tair marchnad ieuenctid wedi’i chynnal yn y dref hyd yn hyn, sy’n agored i unrhyw entrepreneuriaid ifanc - a diddanwyr a pherfformwyr stryd - sydd o dan 25 oed ac yn byw ym Mhowys.

Mae rhai o’r busnesau newydd – llawer ohonynt sy’n ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Llandrindod – nawr hefyd yn masnachu mewn digwyddiadau cymunedol eraill, yn gwerthu nwyddau dros gyfryngau cymdeithasol ac yn cynnig eu gwasanaethau ar gyfer carnifalau, partïon a dathliadau. 

Mae’r masnachwyr ifanc, sy’n cael eu cefnogi gan Hyrwyddwr Tref Llandrindod, Jude Boutle, nawr yn arwain y farchnad, yn chwarae rôl weithredol ar bwyllgor y farchnad ieuenctid ac eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer marchnad pen-blwydd ar 17 Medi  - i nodi pen-blwydd cyntaf y fenter.

Y nod cychwynnol oedd cynyddu nifer yr ymwelwyr, annog mwy o siopwyr i’r dref, adnabod ac annog entrepreneuriaid y dyfodol, tra’n cyfrannu at y profiad o siopa sydd yn y dref ar hyn o bryd. Yn ogystal â stondinau masnach, mae’r Farchnad Ieuenctid yn cynnwys adloniant stryd bywiog.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

"Mae’r Farchnad Ieuenctid yn ychwanegu at ein gwasanaethau entrepreneuriaeth i bobl ifanc sy’n cael eu darparu drwy Syniadau Mawr Cymru ac maent wedi’u cynllunio i annog a chefnogi pobl ifanc i fod yn arloesol ac yn entrepreneuraidd. Mae hi’n wych cael gweld faint o bobl ifanc sy’n llwyddo’n fawr yn eu busnesau newydd, yn gweithio’n galed, yn gwneud elw ac yn dysgu gwersi hynod werthfawr wrth wneud hynny."

Dull o weithio sy’n cael ei arwain gan fusnes yw menter y Farchnad Ieuenctid, er mwyn mynd i’r afael â chynaliadwyedd economaidd Llandrindod, fel rhan o becyn cymorth ehangach  sy’n cael ei gyflwyno i Ardal Twf Lleol Powys. 

Mae Jude Boutle sef Hyrwyddwr Tref Llandrindod, y mae ei rôl yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda Grŵp Busnes Llandrindod i yrru blaenoriaethau Cynllun Adfywio Economaidd y dref yn eu blaen. 

Dywedodd Jude: 

“Mae’r masnachwyr ifanc yn y Farchnad Ieuenctid yn dangos gwreiddioldeb yn yr hyn y maent yn eu cynhyrchu a’u gwerthu ac mae’r perfformwyr ifanc mor hyderus a thalentog!  Mae’r Farchnad Ieuenctid hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad o reoli llwyfan, bod yn Swyddog Iechyd a Diogelwch neu brofiad o gysylltu â busnesau lleol. Rwyf yn edrych ymlaen at ben-blwydd cyntaf ein marchnad ar 17 Medi.”