Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceisiadau bellach ar agor i fusnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden gael cyllid i fuddsoddi mewn paratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn yn helpu hyd at 2,500 o fusnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.

Mae grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sydd:

  • yn cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl
  • wedi bod yn masnachu ers cyn 5 Ebrill 2023
  • yn rhedeg safle ag iddo werth ardrethol o £6,001 i £51,000
  • naill ai'n berchen ar safle'r busnes neu'n ei lesio gyda les o 3 blynedd fan leiaf sy'n para tan ar ôl 4 Ebrill 2026.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles:

"Busnesau micro, bach a chanolig yw'r hyn sy'n gwneud i'n heconomi ffynnu, ac fel Llywodraeth rydym yn ymrwymedig i'w helpu i lwyddo.

"Rwy'n gobeithio gweld cymaint o fusnesau â phosibl yn elwa ar y  cyfle hwn i ddod yn fwy effeithlon - gan gadw eu biliau i lawr am byth fel y gallant ganolbwyntio ar ddatblygu eu busnes, eu helw a'u staff.

"Mae fy neges i fusnesau heddiw yn syml, os ydych chi'n gymwys, ewch ati a gwnewch gais nawr am yr help hwn."

Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru (gov.wales)