Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, mae dylunydd ifanc arobryn o Abertawe sy'n creu argraff gyda'i chasgliad ffasiwn yn annog eraill sydd â dyheadau busnes i ofyn am gymorth gan Busnes Cymru.
Sefydlodd Ffion McCormick Edwards Barefoot Tech mewn ymgais i fynd i'r afael â nifer yr hen siwtiau gwlyb nas defnyddiwyd sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Ers hynny mae wedi ennill nifer o gytundebau proffil uchel a gwobrau cynaliadwyedd, gan gynnwys y Wobr Cynaliadwyedd Trwy Arloesi yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol.
Lansiwyd y busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Yn hanu o deulu o sgiwyr dŵr brwd, lansiodd Ffion ei busnes i geisio lleihau effaith llygredd ar y môr. Mae hi'n creu cynnyrch gan ddefnyddio deunyddiau siwtiau gwlyb neoprene sydd wedi'u hadfer, y mae'n cael gafael arnynt o ysgolion syrffio, parciau tonfyrddio a chanolfannau gweithgareddau awyr agored ledled Cymru.
Mae rhai o'r siwtiau gwlyb yn dyddio'n ôl i'r 1980au ac wedi cael eu troi'n ategolion gan gynnwys bagiau cefn, bagiau bach a llyfrau nodiadau, gyda nifer o gynhyrchion Ffion yn ymddangos yn Wythnos Ffasiwn Llundain yn 2021.
Yn ddiweddar, dangosodd ffigurau newydd fod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, gydag entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn gweld cynnydd eithriadol.
Dywedodd Ffion fod y cymorth pwrpasol a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.
Ychwanegodd:
Byddwn yn annog unrhyw berson ifanc yng Nghymru sydd â syniad busnes - mawr neu fach - i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru.
Rwyf wedi elwa'n fawr o'r cyfarfodydd un-i-un misol. Gallaf roi fy holl syniadau a chynlluniau ar y bwrdd a'u mowldio yn gynllun busnes cryf wythnos ar ôl wythnos. Wrth adael fy nghyfarfodydd rwyf wedi fy ysbrydoli bob amser ac rwy'n gosod mwy o nodau i mi fy hun.
Fyddwn i ddim lle'r ydw i heddiw, yn gweithio'n llawn amser fel entrepreneur hunangyflogedig, heb eu cymorth.
Bydd dros 100 o ddigwyddiadau yn cael eu cefnogi gan Busnes Cymru ledled Cymru yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, gyda'r nod o ysbrydoli pobl i lansio menter fusnes.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Rydym yn gweld tuedd hynod gadarnhaol yng Nghymru o ran entrepreneuriaeth ac mae'n wych cael y cyfle i ddathlu llwyddiannau cymaint o fusnesau ac unigolion, fel Ffion, sydd wedi gwneud busnes ffyniannus o syniad, gydag ychydig o help gan Lywodraeth Cymru. Pob clod i Barefoot Tech am darfu ar y diwydiant ffasiwn fel hyn, a chyda model busnes wedi'i wreiddio mewn cynaliadwyedd.
Dyw hi byth yn rhy hwyr i wireddu eich syniadau a'ch dyheadau busnes ac mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i’ch helpu i wneud hynny - cysylltwch â ni!