Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd mwy na £12 miliwn o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun pwysig i gynhyrchu ynni o donnau'r môr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian hwn yn helpu i ariannu cam nesaf prosiect Marine Power Systems yn Abertawe i greu a lansio dyfais dan y dŵr a fydd yn gallu cynhyrchu ynni glân, fforddiadwy a dibynadwy yng Nghymru ac o amgylch y byd.

Cafodd dyfais WaveSub ei dyfeisio gan Dr Gareth Stockman a Dr Graham Foster, y ddau yn raddedigion o Brifysgol Abertawe a nhw sefydlodd Marine Power Systems yn 2008.

Gan ddefnyddio technoleg sydd â phatent a ddatblygwyd gan y cwmni, mae'r ddyfais yn gweithredu dan wyneb y dŵr drwy ddal dwysedd pŵer tonnau'r môr.

Yn dilyn profion llwyddiannus ar WaveSub sydd chwarter maint y ddyfais go iawn, bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi'r cwmni i ddatblygu prototeip maint llawn ac yn helpu i baratoi ar gyfer ei lansio yn y farchnad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Marine Power Systems i helpu i ddatblygu'r dechnoleg hon a'r cydsyniad ar gyfer WaveSub. 

Wrth gyhoeddi'r £12.8 miliwn o arian yr UE  yn ystod ymweliad â'r cwmni heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Rydyn ni am i Gymru chwarae rhan flaenllaw yn sector ynni'r môr. Mae hynny'n golygu cefnogi datblygwyr o Gymru fel Marine Power Systems; gan barhau i ddenu datblygwyr o bedwar ban byd i Gymru ac allforio ein gwybodaeth, ein technoleg a'n gwasanaethau o gwmpas y byd.

"Mae WaveSub yn brosiect sy'n torri tir newydd ac mae'r buddsoddiad hwn yn galluogi'r cwmni i gymryd cam mawr ymlaen i gyflawni'r nodau hyn. Dyma newyddion ardderchog i ddiwydiant ynni'r môr yng Nghymru".

Yn ogystal ag arian yr UE, bydd cam nesaf y prosiect yn cael ei ariannu drwy gyfle buddsoddi £5.5 miliwn, i'w ddarparu gan Marine Power Systems dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Dr Gareth Stockman, Prif Weithredwr, Marine Power Systems:

"Mae'n anrhydedd cael £12.8 miliwn gan yr UE ar gyfer WaveSub a fydd yn cynhyrchu ynni o'r tonnau a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus a blaengar. 

"Ar ôl cynnal y profion yn ddiweddar ar ein prototeip llai o faint, mae'r arian hwn yn dyst i'r cynnydd y mae Marine Power Systems wedi'i wneud o ran datblygu WaveSub. Gyda'n tîm talentog o beirannwyr a rhwydwaith o gyflenwyr profiadol yn ein helpu, mae Marine Power Systems yn hyderus y gall arwain y ffordd yn sector ynni'r môr.

"Rydyn ni'n byw mewn oes y mae ynni adnewyddadwy yn datblygu'n gyflym, a'r hyn sy'n bwysig yw'r ffaith bod y cyhoedd bellach yn ei gefnogi'n frwd. Mae Marine Power Systems yn gyffrous i ddefnyddio'r cymorth ariannol hwn i barhau i ddatblygu'r WaveSub hyd nes ei fod yn barod i'w gyflwyno i'r farchnad. Mae’n gwbl ymrwymedig i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau allyriadau digarbon erbyn 2050".

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE wedi creu 45,000 o swyddi a 13,400 o fusnesau yng Nghymru, gan roi arian neu gymorth i fwy na 26,000 o fusnesau