Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth genedigaeth oen ar fferm wledig yng Nghymru ddenu cynulleidfa ar-lein o filoedd - diolch i’r band eang ffeibr cyflym iawn sydd wedi deillio o raglen Cyflymu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth oddeutu 13,000 o bobl wylio fideo o’r digwyddiad cyffrous ar ôl i’r manylion gael eu cyhoeddi ar Facebook. Llwyddodd i greu cyhoeddusrwydd buddiol ar gyfer fferm Cefn Cae’r Ferch ym Mhencaenewydd, ger Pwllheli, sy’n arbenigo mewn defaid Texel pedigri ac sydd hefyd â bwthyn gwyliau.

Mae Dafydd Jones, ei wraig Dona a’u plant Tomos a Carla wedi elwa ar fand eang cyflym iawn– hyd at 200 Mbps – ers i gysylltiad ffeibr i’r adeilad (FTTP) gyrraedd y fferm.

Mae’r fideo o enedigaeth yr oen yn un o nifer o ffyrdd y mae Dafydd wedi defnyddio band eang cyflym iawn ar gyfer hyrwyddo ei fwthyn gwyliau a thynnu sylw cynulleidfa ehangach at ei ddefaid Texel gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook. Mae’r broses o lanlwytho ffotograffau neu fideos bellach lawer yn haws.

Mae cyflymder y cyswllt band eang wedi creu cryn argraff ar ymwelwyr â’r bwthyn gwyliau, ac mae rhai wedi nodi bod y cyswllt lawer gwell ar y fferm nag ydyw yn eu cartrefi nhw. Mae modd iddynt hefyd ddefnyddio gwasanaethau teledu ar gais fel Netflix, Amazon a YouTube a gallant weithio o bell. Gall ymwelwyr hefyd estyn eu gwyliau er mwyn treulio mwy o amser yng nghefn gwlad Gwynedd.

Mae modd i Dafydd wneud llawer o’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r busnes fferm ar-lein. Mae hyn yn cynnwys rheoli cyllid y fferm a hefyd ddefnyddio gwasanaethau symud anifeiliaid y BCMS yn gyflym a heb unrhyw oedi. Mae hefyd yn cofrestru ei ŵyn Texel ar-lein drwy wasanaeth defaid Basco ac mae’n defnyddio gwasanaeth ar-lein Taliadau Gwledig Cymru.

Dywedodd Dafydd:

“Nid oeddem wedi disgwyl gweld cebl optig ffeibr yn dod yr holl ffordd i lawr i’n fferm ni. Roedd yn sicr yn rhywbeth yr oedd gwerth aros amdano.

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r hyn y gallwn ei wneud ar y fferm a hefyd i’r gwaith o osod ein bwthyn gwyliau. Mae band eang cyflym iawn wedi’n galluogi i elwa ar dechnolegau a phosibiliadau newydd.

“Mae hefyd wedi gwella’r derbyniad ffonau symudol a arferai fod yn wael. Gan fod modd defnyddio ffonau modern i wneud galwadau ffôn drwy gyswllt wi-fi gallwn ni, a hefyd ein hymwelwyr, bellach wneud a derbyn galwadau, Yn sicr mae pobl yn gwerthfawrogi’r gallu i wneud galwadau ffôn mewn argyfwng neu i sicrhau y gall pobl eraill eu ffonio os bydd angen. Mae hefyd yn golygu ein bod yn arbed arian o ran galwadau ffôn busnes a galwadau ffôn personol i ffonau symudol.

“Mae pobl yn hoffi ymlacio’n llwyr tra’u bod ar wyliau ond maen nhw hefyd yn awyddus i sicrhau bod modd iddynt ddefnyddio eu ffonau os bydd angen. Mae’r band eang cyflym iawn yn golygu y gallan nhw wneud hynny yn ystod eu gwyliau gyda ni.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:

“Gwych yw gweld sut y mae busnes fferm gwledig fel Fferm Cefn Cae’r Ferch wedi elwa ar raglen Cyflymu Cymru.

“Dyma brif nod y rhaglen - galluogi ardaloedd nad oedd ganddynt gyswllt band eang da iawn i fanteisio ar gyflymderau llawer iawn gwell. Rwy’n falch iawn fod y fferm yn elwa ar y cyswllt cyflym iawn sydd ganddi erbyn hyn er lles y fferm ei hun a hefyd yr ymwelwyr y maent yn eu croesawu

“Mae Cyflymu Cymru yn creu cryn effaith ac erbyn hyn mae modd i dros wyth o bob deg eiddo fanteisio ar fand eang cyflym iawn o’i gymharu ag ychydig dros hanner ddwy flynedd yn ôl. Erbyn hyn, Cymru sydd â’r cyswllt band eang cyflym iawn gorau o blith yr holl wledydd datganoledig.

“Rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud ond rydym yn llwyddo i gyrraedd mwy a mwy o eiddo bob dydd.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol BT Cymru:

“Gan y cefais fy magu ar fferm rwy’n deall pa mor bwysig yw cysylltedd da i’n ffermydd gwledig.

“Mae technoleg yn chwarae rhan fwyfwy amlwg ar draws ein cymdeithas, ac yn sicr ym maes amaeth. Mae Fferm Cefn Cae’r Ferch yng Ngwynedd yn un enghraifft o’r modd y mae band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth ac mae ein peirianwyr Openreach yn parhau i weithio’n ddiwyd er mwyn cyrraedd mwy a mwy o bobl yn gyflymach.”

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, ac mae’n galluogi ardaloedd nad oedd ganddynt gyswllt da i elwa ar gyflymderau llawer iawn gwell.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu cynllun Allwedd Band Eang Cymru a all gynnig cymorth i’r bobl nad oes modd iddynt elwa ar fand eang cyflym iawn drwy gynnig cymorth grant iddynt. Gallant ddefnyddio’r cyllid hwn ar gyfer manteisio ar dechnolegau eraill. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth llyw.cymru/bandeang.