Neidio i'r prif gynnwy

Connect Assist, busnes cymdeithasol llwyddiannus, fydd y busnes cyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaeth codi arian moesegol i elusennau, gan greu 66 o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gwasanaeth newydd yn creu 66 o swyddi dros y 18 mis diwethaf yn y Cymoedd a chyda'r £222,600 o nawdd y mae wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru, bydd Connect Assist yn gallu lansio'r gwasanaeth yn y man.  Mae galw mawr am wasanaeth o'r fath yn sgil nifer o gyhuddiadau amlwg yn erbyn asiantaethau codi arian am gamymddwyn yn y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, mae nifer o elusennau wedi cau eu contractau gyda'r asiantaethau hyn ac mae llawer ohonyn nhw erbyn hyn wedi rhoi'r gorau iddi.  Bydd y gwasanaeth newydd i elusennau yn cynnwys darparu llinellau ymateb i apeliadau argyfwng, ymgyrchoedd codi arian a thrin ymholiadau am y gwaith y mae elusennau yn ei wneud ac am helpu elusennau.  Mae prif swyddfa Connect Assist yn Nantgarw a dathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed llynedd.  Cafodd ei sefydlu'n unswydd i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd.  Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 
"Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gefnogi Connect Assist wrth iddo lansio'r gwasanaeth newydd hwn a fydd yn creu nifer dda o swyddi lleol ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa i bobl.  "Mae Connect Assist yn cyflogi 100 o bobl ar hyn o bryd ac mae ei waith dros y deng mlynedd diwethaf wedi cael effaith go iawn o ran helpu pobl i gamu i'r byd gwaith.  Mae hynny wedi cael ei gydnabod trwy ennill nifer o wobrau haeddiannol." 
 Dywedodd Ron Moody, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gleientiaid: 
"Rydym wrth ein boddau cael lansio'r gwasanaeth moesegol mawr ei angen hwn i godi arian. O fod wedi gweithio gyda'r sector elusennau am fwy na degawd i helpu elusennau i helpu eu buddiolwyr, mae'r gwasanaeth newydd hwn ar gyfer codi arian a gofalu am gefnogwyr yn estyniad naturiol o'r hyn roeddem yn ei gynnig. Mae help Llywodraeth Cymru'n rhan bwysig iawn o'r lansiad ac o'r nod o greu swyddi cynaliadwy." 
 Mae'r busnes yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth i unigolion sy'n wynebu amgylchiadau anodd. Mae ganddo hanes hir a llwyddiannus o ddarparu gwasanaethau canolfan gyswllt a llinell gymorth broffesiynol aml-sianel, systemau'r we a gwasanaethau ymgynghori i sefydliadau di-elw ledled y DU.  Mae Connect Assist yn cyflogi staff proffesiynol i gynnig gwasanaeth 24 awr y dydd, bod dydd o'r flwyddyn yn rhedeg llinellau cymorth er mwyn i bobl allu cysylltu â nhw unrhyw bryd ac yn y ffordd sy'n eu siwtio orau.