Cynhaliwyd cynhadledd buddsoddi mewn twristiaeth yn Stadiwm Principality heddiw, 29 Tachwedd, er mwyn creu partneriaethau newydd a chyflymu'r gwaith o gyflenwi prosiectau.
Daeth awdurdodau lleol sy'n chwilio am fuddsoddwyr posibl i'w prosiectau i'r gynhadledd er mwyn tynnu sylw at yr hyn y gallant ei gynnig.
Cafodd y mynychwyr gyfle i wrando ar brofiadau rhai buddsoddwyr uchel eu proffil yng Nghymru gan gynnwys Gwesty'r Celtic Manor a'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol; Aston Martin a Surf Snowdonia.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth o safbwynt safon yr hyn y gall ei gynnig i dwristiaid. Er bod modd i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth os oes methiant o fewn marchnad mae'n gwbl allweddol ein bod yn ennyn hyder buddsoddwyr yn sector twristiaeth Cymru, a hynny er mwyn sicrhau twf hirdymor y sector. Rhaid sicrhau bod Cymru'n gallu cystadlu o fewn marchnadle byd eang.
Mae cydweithredu'n gwbl allweddol i dwf economaidd ac rwy'n gobeithio bod heddiw wedi creu rhai cyfleoedd cyffrous ar gyfer partneriaethau yn y dyfodol."
Gwnaeth Andrew Renouf o GVA annerch y mynychwyr a chyflwynodd drosolwg o'r farchnad yng Nghymru. Dywedodd:
“Mae’n wych gweld bod sector twristiaeth Cymru yn ffynnu ac yn parhau i ddatblygu ond mae cryn waith i’w wneud o hyd o safbwynt codi proffil yr hyn a gynigir, denu mwy o ymwelwyr o dramor a sicrhau cyn lleied â phosibl o wahaniaeth rhwng tymhorau a rhwng ardaloedd.
Roedd heddiw’n gam pwysig ymlaen o safbwynt tynnu sylw buddsoddwyr at gyfleoedd datblygu mawr ac roedd GVA yn falch iawn o fod yn rhan o hyn. Mae dyfodol disglair i dwristiaeth yng Nghymru ac mae’r diddordeb y mae datblygwyr a buddsoddwyr wedi’i ddangos heddiw yn galonogol iawn.”
Manteisiodd Cyngor Caerdydd ar y cyfle i dynnu sylw at y datblygiadau yr oeddent yn chwilio am fuddsoddwyr ar eu cyfer. Dywedodd Jonathan Day, Rheolwr Polisi Economaidd Cyngor Caerdydd:
“Mae Cymru’n lleoliad unigryw a gall gynnig profiadau cwbl wahanol i ymwelwyr, gan gynnwys ardaloedd gwledig hardd, profiadau diwylliannol llewyrchus, treftadaeth hynafol a dinasoedd cyffrous. Mae’r brifddinas sef Caerdydd yn borth i sawl rhan o Gymru, a hi yw’r ddinas fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
Rydym yn canolbwyntio ar adfywio canol y ddinas gan ei throi’n ganolfan ryngwladol ar gyfer masnach a diwydiant ac ar adfywio’r bae gan ei droi’n gyrchfan flaenllaw o fewn y DU ar gyfer hamdden a diwylliant.
Rydym yn hyderus y bydd y farchnad ar gyfer ymwelwyr busnes ac ymwelwyr hamdden yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, gan ychwanegu at yr £1.3 biliwn sydd eisoes yn cael ei wario gan y 22 miliwn o ymwelwyr â’r ddinas."