Neidio i'r prif gynnwy

Mae Venue Cymru yn Llandudno wedi ennill buddsoddiad o £2.8 miliwn, a fydd yn gwneud y Gogledd yn fwy deniadol i’r sector digwyddiadau busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gwaith i adnewyddu Venue Cymru fel canolfan digwyddiadau busnes yn dechrau yn mis Mai 2018 ac yn gorffen erbyn diwedd y flwyddyn.  Mae yn agos at £1miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd  wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith.  Mae’r prosiect yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru: Cyrchfannau Denu Twristiaeth, a ariennir gan yr UE, dan arweiniad Croeso Cymru.

Mae Venue Cymru yn cynnal dros 800 o gynadleddau a digwyddiadau bob blwyddyn. Roedd perchnogion Venue Cymru, Cyngor Sir Conwy, yn gweld bod addasu’r adeilad yn ffordd o allu diwallu’r gofynion cynyddol ac yn awyddus i weld y ganolfan yn cystadlu’n well yn y sector. 

Bydd rhaglen i ailgynllunio’r adeilad presennol yn sicrhau y bydd y lle mewnol yn gallu cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon ar gyfer cynnal sioeau a digwyddiadau. Bydd gwella ansawdd yr adeilad yn denu mwy o ymwelwyr i’r Gogledd ac i Venue Cymru gan helpu i ymestyn y tymor twristiaeth.

Dywedodd, Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth: 

“Dw i’n croesawu’r buddsoddiad hwn yn Venue Cymru, sy’n cydnabod mor bwysig yw’r ganolfan i’r sector digwyddiadau busnes yn y Gogledd. Mae buddsoddi’n hanfodol os ydym am weld yr amrywiaeth o gyfleusterau ac atyniadau o ansawdd sydd eu hangen ar y farchnad. 

“Ar hyn o bryd, er bod Cymru’n denu llai na 2% o werth busnes cynadleddau a chyfarfodydd y DU gyfan, mae potensial i ddenu digwyddiadau cymdeithasau Prydeinig a rhyngwladol, cyfarfodydd y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, cyfarfodydd corfforaethol a digwyddiadau datblygu tîm, i’n canolfannau a chyrchfannau ardderchog ni.  Mae digwyddiadau busnes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Un o brif fanteision eu cynnal yw’r ganran uchel o gynrychiolwyr sy’n dychwelyd i’r ardal am wyliau.

“Mae gan Gymru hanes gwych o gynnal llawer o ddigwyddiadau mwyaf y byd. Rydyn ni’n edrych rŵan at adeiladu ar ein profiad i ddenu digwyddiadau busnes blaenllaw i’n gwlad. Mae arddangos mewn digwyddiadau byd-eang fel ibtm world yn holl bwysig os ydym am wireddu’n huchelgais i godi proffil Cymru yn y farchnad hon fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau busnes.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Emery Aelod Cabinet Conwy ar gyfer datblygu economaidd, 

"Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y prosiect cyffrous hwn.  Mae Venue Cymru eisoes yn cyfrannu mwy na £33 m y flwyddyn i economi Gogledd Cymru ac yn cefnogi cannoedd o swyddi.  Bydd y datblygiad hwn yn helpu i ni adeiladu ar hyn, a thyfu twristiaeth busnes a digwyddiadau yng Nghonwy.”

Mae Croeso Cymru yn arddangos yn yr ibtm gyda’i bartneriaid yn sector twristiaeth Cymru: Caerdydd, ICC Cymru a Gwesty’r Fro, ochr yn ochr â VisitEngland, VisitScotland a London and Partners.  ibtm world yw’r digwyddiad byd-eang ar gyfer y sector digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd ac mae Croeso Cymru wedi lansio ymgyrch newydd yn ddiweddar ar gyfer denu cynadleddau a digwyddiadau mawr busnesau i Gymru.