Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r grŵp diwydiannol a metelau, Liberty House, wedi ailagor gwaith dur y Cymoedd yn swyddogol heddiw, flwyddyn ar ôl i'r cwmni blaenorol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Liberty yn ailddechrau ar y gwaith o gynhyrchu tiwbiau dur a chydrannau strwythurol eraill ar y safle yn Nhredegar gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gan greu tua 70 o swyddi newydd yn uniongyrchol yn ogystal â llawer mwy drwy’r gadwyn gyflenwi.

Wrth iddo ymweld â’r safle yn Nhredegar yng nghwmni Sanjeev Gupta, cadeirydd gweithredol Liberty, disgrifiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y busnes newydd fel hwb arbennig i'r ardal ac i'r diwydiant dur yn gyffredinol yng Nghymru.

Mae'r safle, sy'n cynnwys melin sy’n rholio 100,000 o dunelli y flwyddyn, yn un o nifer o gyn-safleoedd Caparo Steel Products a brynodd Liberty o ddwylo'r gweinyddwyr tua therfyn 2015. Bydd Liberty yn buddsoddi £3.7m i adnewyddu'r safle gyda chymorth o £600,000 gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau'r prosiect i Gymru.

Dyma'r diweddaraf ymhlith nifer o fusnesau dur a pheirianyddol y mae Liberty wedi eu prynu ledled y DU. Daw'r cyhoeddiad flwyddyn wedi i'r cwmni agor y felin yng Nghasnewydd, oedd wedi mynd i'r wal o dan ofal y perchnogion blaenorol. O ganlyniad i'w pryniannau a'u buddsoddiadau, mae Liberty wedi llwyddo i ddiogelu dros 1,500 o swyddi uniongyrchol ym Mhrydain, ynghyd â miloedd yn rhagor drwy’r gadwyn gyflenwi.  

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Ry'n ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru, sy'n hanfodol wrth sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n sector gweithgynhyrchu.

"Mae ailagor gwaith dur y Cymoedd yn newyddion da i'r diwydiant. Mae gan Liberty enw da o fewn y sector ac mae’n un o'r cwmnïau prin hynny sy'n ehangu yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol. Dyma ymrwymiad cadarn arall ganddyn nhw ac rwy'n croesawu eu cynlluniau i wneud y safle'n fwy modern ac i gyflogi cyn-aelodau o staff, gan gadw sgiliau’n lleol.

"Bydd ailagor y gwaith dur yn hwb sylweddol i'r economi leol gan greu 70 o swyddi newydd, ynghyd â chyfrannu at greu rhagor o swyddi yn y gadwyn gyflenwi."

Yn ogystal ag ymweld â'r safle sydd wedi cael ei enwi'n Liberty Steel Tredegar, aeth y Prif Weinidog i safle Liberty Steel yng Nghasnewydd, fydd yn cyflenwi deunydd crai i safle'r Cymoedd.

Yn ystod yr ymweliad cafodd y Prif Weinidog gwrdd â staff a chael gweld seremoni arbennig i ddathlu'r ŵyl Hindŵ Diwali a nodi blwyddyn gyntaf safle Casnewydd o fod yn ôl ar ei draed.

Dywedodd cadeirydd gweithredol Liberty House, Sanjeev Gupta:

"Mae ailagor safle Tredegar yn newyddion da i'n economi gan y bydd yn galluogi cwmnïau i ddefnyddio cynnyrch cartref yn hytrach na’i fewnforio. Bydd hefyd yn creu swyddi medrus yma yng Nghymru. Ry'n ni'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth brwd Llywodraeth Cymru sydd wedi dangos eu bod yn sefyll yn gadarn gyda'r diwydiant dur, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r diwydiant dur yn parhau i wynebu sawl her yn fyd-eang. Mae'r cynnydd sylweddol ym mhrisiau deunydd crai yn golygu bod sefyllfa ariannol y cynhyrchwyr yn waeth nag erioed, ac ry'n ni'n rhagweld bod cyfnod anodd o'n blaenau. Serch hyn, mae marchnad aeddfed yma’n y DU, gyda galw gan gwsmeriaid am gynnyrch o safon a gwasanaeth penigamp. Mae gennym ni'r sgiliau a'r gallu i ateb galw ein marchnad gartref gyda chynnyrch o ansawdd uchel am bris da, cyn belled ag ein bod yn gallu cystadlu’n deg â chwmnïau rhyngwladol. Mae Liberty yn dangos hyn dro ar ôl tro.

“Mae lansio Liberty Steel Tredegar yn gam arall ymlaen i ni wrth i ni ddatblygu a sefydlu busnes dur cystadleuol, integredig yma yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Ry'n ni'n gwneud hyn drwy ddefnyddio ein model busnes cynaliadwy GREENSTEEL fydd yn y pendraw yn arwain at greu dur o ddeunydd wedi'i ailgylchu gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae dur yn un o gonglfeini diwydiant y DU. Mae'n hanfodol i ddyfodol economi Prydain, yn enwedig yng Nghymru."