Bydd prosiect £4.6 miliwn i adnewyddu ac ailddatblygu tai yn y Rhyl yn derbyn mwy na £900,000 o fuddsoddiad adfywio Llywodraeth Cymru, a bydd y cyfnod cyntaf yn creu 32 o dai fforddiadwy.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, y cyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer y prosiect, a gyflawnir gan Gyngor Sir Ddinbych a Grŵp Tai Pennaf.
Bydd cyfnod cyntaf y prosiect yn cynnwys:
- adnewyddu eiddo ar Crescent Road yn dri fflat fforddiadwy ar gyfer pobl dros 55 oed
- adnewyddu dau eiddo ar Water Street i greu chwe fflat fforddiadwy
- adnewyddu wyth eiddo ar Aquarium Street i greu cartrefi a fydd ar gael o dan y cynllun Perchentyaeth Cost Isel
- ailddatblygu safle ar John Street i greu 15 o fflatiau hygyrch sy’n addas i bobl hŷn.
Meddai Hannah Blythyn:
“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu 32 o dai fforddiadwy, gan adfywio hen eiddo, a bydd yn helpu i gyfrannu at waith adfywio ehangach sy’n mynd rhagddo’n lleol. Byddan nhw’n cyfrannu hefyd at ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor presennol y Cynulliad.
“Ar ddechrau mis Ionawr, cyhoeddom ni £2.5 miliwn o fuddsoddiad adfywio i helpu Cyngor Sir Ddinbych i brynu ac ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl sydd, ynghyd â’r buddsoddiad hwn, yn rhan o raglen adfywio ehangach o lawer. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn datblygu, gan gynnwys y cartrefi newydd gwych hyn yn yr ardal.”
Mae rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio flaengar Llywodraeth Cymru yn darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar hyd a lled Cymru dros dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ac mewn ardaloedd cyfagos.
Cefnogir y cyllid hwn gan fuddsoddiad pellach o oddeutu £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill, gan ddarparu hwb o £160 miliwn i gymunedau ledled Cymru. Mae hyn yn rhan o strategaeth adfywio Llywodraeth Cymru, a fydd yn buddsoddi £800 miliwn rhwng 2014 a 2023. Mae hyn yn cynnwys tua £250 miliwn gan Lywodraeth Cymru wedi’i ategu gan fwy na £550 miliwn gan sefydliadau a busnesau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, aelod arweiniol Sir Ddinbych dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd:
“Bydd yr arian yma yn galluogi’r Cyngor a Pennaf i wneud rhagor o welliannau i dai yn Ardal Adfywio Gorllewin y Rhyl ac adeiladu ar lwyddiant raglen flaenorol y Cyngor o sicrhau eiddo a’r buddsoddiad a wnaed mewn cartrefi newydd. Cafodd y prosiect ei gydnabod yn ddiweddar fel y prosiect adfywio gorau o ran ei faint yng ngwobrau Inside Housing ar lefel y Deyrnas Unedig. Bydd hefyd yn cyfrannu at wireddu’r flaenoriaeth sydd yn ein Cynllun Corfforaethol o ddarparu cartrefi fforddiadwy yn y sir.”