Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd dau brosiect ynni adnewyddadwy yn elwa ar £9.5m o gyllid yr Undeb Ewopeaidd.
Gwnaeth y cyhoeddiad heddiw mewn digwyddiad i ddathlu effaith cronfeydd yr UE yng Nghymru.
Bydd y cynllun GSCS (Generation Storage Consumption Supply), sy’n werth £14.4m, yn cael £9m o gyllid yr UE.
Bydd yn defnyddio technoleg batri arloesol i gynhyrchu a storio trydan o ffynonellau carbon isel ac adnewyddadwy, a fydd yn cael ei ddobarthu wedyn i fusnesau lleol ar gyfradd ratach.
Bydd GSCS yn cynnig cyfleoedd i arbed arian mewn safleoedd ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Bydd cynllun gwerth £0.9m yn Abertawe – cynllun cymunedol i storio ynni’r haul a’i gyflenwi’n lleol yn uniongyrchol – yn cael £600,000 o arian o gronfeydd yr UE i gyflenwi trydan i hyd at 300 o ddefnyddwyr lleol.
Mae’r cynllun arloesol hwn wedi’i leoli ar y fferm solar gyntaf yng Nghymru i fod yn eiddo i’r gymuned, a’i nod yw creu model ynni cymunedol mwy o faint i gefnogi llawer mwy o gymunedau drwy Gymru.
Wrth siarad yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn esiampl gadarnhaol arall o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau arloesol gan ddefnyddio cyllid yr UE, ac mae’n dangos mor bwysig yw sicrhau cyllid amgen i Gymru gan Lywodraeth y DU, wrth inni ymadael â’r UE.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu economi ynni carbon isel sy’n gynaliadwy yng Nghymru, a’r nod yw cynhyrchu 70% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
“Bydd y ddau brosiect hyn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith drwy gefnogi busnesau a chymunedau lleol i ddefnyddio ynni adnewyddadwy a’n helpu i wireddu’r nod gyda’n gilydd.”
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weld ein system ynni’n newid yn gyflymach, yn enwedig trwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Ein blaenoriaeth yw defnyddio ynni’n fwy effeithiol, lleihau ein dibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil a gweithio’n galed i reoli’r newid i economi carbon isel er lles Cymru.”
Dywedodd Iestyn Morgan, cyfarwyddwr arweiniol gyda’r Infinite Renewables Group:
“Mae GSCS yn fenter newydd gyffrous a fydd yn sicrhau arbedion yng nghostau ynni’r gymuned fusnes. Mae’n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymu i greu economi garbon isel gynaliadwy drwy symud tuag at ddyfodol o ynni clyfar sy’n cyfuno ynni glân, cyfleusterau storio a micro-gridiau yn lleol.”
Dywedodd Ant Flanagan o Gower Power Solar Storage:
“Y prif nod mewn cynlluniau ynni cymunedol yw galluogi defnyddwyr ynni yn lleol i fanteisio’n uniongyrchol ar asedau cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy – nid yn unig drwy rannu’r elw ond hefyd drwy ostwng y biliau.
“Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn ein galluogi i gynnal cynllun peilot sydd ar flaen y gad yn y farchnad. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid gwych i wneud arbedion yn y costau trosglwyddo cenedlaethol ac i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, gan gyflenwi rhaglenni ehangach sy’n rhoi budd i’r gymuned hefyd.”