Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £500,000 mewn gwaith seilwaith i ehangu Parc Busnes Broadaxe
Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu ffordd newydd a gosod gwasanaethau cysylltiedig fydd yn agor safle 4 acer ac yn creu hyd at chwe safle datblygu â gwasanaethau ar gyfer busnesau. Bydd yr ehangu yn dilyn ymholiadau gan nifer o gwmnïau, gan gynnwys busnesau sydd eisoes yn y Parc ac sydd am ehangu.
Mae’r contract, a gynigwyd ar dendr, wedi ei roi i Jones Bros. (Henllan) Ltd .
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Rydym yn gwybod bod safleoedd yn hollbwysig i ddenu buddsoddiad newydd a chadw’r buddsoddiadau presennol. Mae adroddiad grŵp cynghori Ardal Twf Lleol Powys hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am safleoedd i fynd i’r afael â datblygiad economaidd Powys, ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r galw lleol ac yn buddsoddi i gefnogi twf busnesau.
Bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd i gwmnïau yn yr ardal i ehangu a datblygu eu busnesau a hefyd i helpu i ddenu busnesau newydd i’r ardal fydd yn creu swyddi ac yn cefnogi’r economi leol.”
Rhagwelir hefyd y bydd yn denu buddsoddiad o’r sector preifat gan gwmnïau adeiladu lleol sydd wedi mynegi diddordeb i ddatblygu’r safleoedd.
Meddai Gareth Jones, Cyfarwyddwr, Jones Bros (Henllan) Ltd:
“Fel cwmni sydd wedi hen sefydlu yng Nghymru, rydym yn naturiol wrth ein boddau o gael y cyfle i ddatblygu’r safle hwn drwy adeiladu ffordd fynediad a gosod y gwasanaethau a’r seilwaith cysylltiedig. Rydym wedi bod yn gweithio yn ddiweddar gyda phrosiectau ehangu ar gyfer parciau yn Sir Gaerfyrddin (Parc Bwyd Cross Hands) ac yn gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddarparu yr un cyfleoedd economaidd a’r cyfleoedd am waith.”
Y buddsoddiad ym Mharc Busnes Broadaxe yw’r diweddaraf mewn nifer o ymyriadau gan Lywodaeth Cymru yn y farchnad eiddo yn y canolbarth sydd wedi eu hanelu at gefnogi swyddi a thwf.
Maent yn cynnwys ffatri newydd gwerth £2 filiwn sy’n cael ei hadeiladu yn y Drenewydd ar gyfer Zip Clip i ehangu’r cwmni; adeiladu safle peirianneg uwch-dechnoleg newydd ar gyfer Control Techniques – un o gyflogwyr mwyaf y canolbarth a buddsoddiad arfaethedig o £5.6 miliwn mewn ffatri newydd ar gyfer Invertek Drives i alluogi’r cwmni i ehangu ei ganolfan yn y Drenewydd a chreu hyd at 50 o swyddi newydd.